Yn Hydref 2019 bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn perfformio cynhyrchiad pryfoclyd newydd wrth ochr dau gynhyrchiad clodwiw mewn tymor a fydd yn eich gadael eisiau mwy.


Ni all yr un dyn wrthsefyll swynion hudoles fwyaf y byd opera, Carmen. Bydd cynhyrchiad newydd WNO yn cyflwyno’r holl angerdd a drama sy’n ddisgwyliedig o’r opera eiconig hon ynghyd â cherddoriaeth hudolus Bizet, sy’n cynnwys yr enwog Toreador Song a Habanera pryfoclyd Carmen.

Ysgrifennodd Verdi mai Rigoletto oedd ei opera orau, a gyda’i stori a sgôr dramatig mae’n hawdd gweld pam ei bod yn parhau i fod yn ffefryn bythol. Mae’r adfywiad amserol hwn o gynhyrchiad poblogaidd WNO wedi ei osod yn y Tŷ Gwyn yn ystod arlywyddiaeth Kennedy.

Daw’r Tymor i ben gyda chynhyrchiad lliwgar WNO o The Cunning Little Vixen Janáček sydd yn swynol, doniol a dwys ac yn ailuno’r Cyfarwyddwr, David Pountney gyda Chyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus.