Rydym yn wneuthurwyr theatr ac yn storïwyr; dylai ein holl waith fod yn gelf.

Bwlch - Pas yr Artist yw ein cynnig i artistiaid Cymru wrth i ni ailgynnau opera fel Y gelfyddyd ddeinamig ein hoes. P’un a ydych yn hyfforddi, wrthi’n sefydlu neu’n hen law arni, rydym yn eich gwahodd chi - y crewyr a’r curaduron - yr artistiaid, y technegwyr, y crefftwyr a'r cynhyrchwyr i’n cartref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru i weld mwy o’n gwaith; gan ddatgelu haenau o'n prosesau creu sioeau gyda’r gobaith y byddwn efallai’n ysbrydoli ein gilydd ac yn tanio'r genhedlaeth nesaf o lunwyr opera.

Mae ein cynnig i chi yn cynnwys:

  • Tocynnau wrth gefn am £10
    Bydd holl ddeiliaid Pas yr Artist yn gymwys i gael tocyn wrth gefn am £10 ar gyfer perfformiadau WNO yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar gyfer unrhyw sedd nad yw wedi ei llenwi ar ddiwrnod y perfformiad (un tocyn fesul person, ynddibynnol ar argaeledd).
  • Mynediad arbennig i'r ymarferion gwisgoedd
    Dewch i gael cipolwg ar ein proses gyda seddi neilltuedig mewn ymarferion gwisgoedd.

I ymuno â Bwlch yn ei flwyddyn gyntaf, mae gofyn eich bod yn byw yng Nghymru. Dylai artistiaid o Loegr a thu hwnt gadw llygad ar y dudalen hon am ragor o ddiweddariadau yn y dyfodol.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Eich Opera Cenedlaethol Cymru