Diogelwch Coronafeirws

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn falch iawn o allu dychwelyd i’r llwyfan a pherfformio ar eich cyfer unwaith eto. Fel Cwmni rydym wedi rhoi amryw o fesurau diogelwch ac asesiadau risg ar waith i ddiogelu ein staff, perfformwyr a chriw mewn ymarferion ac ar daith, ac rydym yn parhau i barchu holl ganllawiau Llywodraeth Cymru.

Mae ein lleoliadau partner hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau y gall cynulleidfaoedd deimlo’n ddiogel wrth wylio ein perfformiadau yn eu hadeiladau. Mae gan bob adeilad ei ganllawiau a’i wybodaeth ei hun, sy’n cael eu diweddaru’n rheolaidd, ar eu gwefannau. Er hwylustod, dyma’r dolenni sydd eu hangen arnoch ar gyfer pob lleoliad: