Newyddion

Dathlu gwaith Janáček

3 Medi 2019

Tair opera wych i fodloni eich chwant operatig; mae ein Tymor yr Hydref yn agor mewn ychydig wythnosau. Fodd bynnag, mae un o’r operâu hyn yn gychwyn ar rywbeth arbennig i’r Cwmni. Yn ogystal â bod yn gyfle arall i weld cynhyrchiad eiconig David Pountney o’r 1980au, mae The Cunning Little Vixen gan Janáček hefyd yn gychwyn ar gyfres a fydd yn ymestyn dros y pedair blynedd nesaf, yn dathlu gwaith y cyfansoddwr. 

Mae’r gyfres yn parhau yn Hydref 2020 pan fyddwn yn llwyfannu fersiwn newydd o gynhyrchiad dwys Katie Mitchell o Jenůfa, a berfformiwyd diwethaf yn 2008. Bydd y gyfres yn dod i ben yn 2022 gyda chynhyrchiad newydd sbon o The Makropulos Case a adnabyddir, yn nhermau cerddorol, fel un o operâu mwyaf heriol Janáček.


Mae cerddoriaeth Janáček wedi'i gwehyddu yn hanes WNO. O'n cylchred o gynyrchiadau ar y cyd a dorrodd tir newydd gyda Scottish Opera yn y 1980au i'r enwau sydd bellach yn enwogion sydd wedi gweithio gyda'r Cwmni a helpu i boblogeiddio gwaith y cyfansoddwr dros y blynyddoedd - Syr Richard Armstrong, Syr David Pountney a Syr Charles Mackerras. Dilynwch Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO, wrth iddo ddod a’i arbenigedd a’i wybodaeth unigryw am operâu Janáček i’r llwyfan.


What I hope audiences will take away from this series is the sense of beauty and depth in Janáček’s music. It explores the very heart of human nature, making our lives feel richer and moving us to our core right in our theatre seats. I personally feel enchanted by the uniqueness and strength in his work and it would be an incredible experience for me as a conductor to see an audience as moved by these stories as I am.

Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerdd WNO

Er mwyn ein helpu ni i gyflawni prosiect mor uchelgeisiol, mae Tomáš yn gwahodd cefnogwyr sydd yn frwdfrydig am waith WNO i’w helpu i ddod â’r gyfres arbennig hon i'r llwyfan. ‘Any support you could give would be gratefully received. In my opinion, the works of Janáček are amongst the most important of the operatic repertoire. By supporting the series, you will be providing a tremendous service to opera as a genre – helping to build on the wonderful artistic union that has existed between WNO and Janáček’s music ever since the original cycle of productions were so boldly staged over 40 years ago.’