Newyddion

Chware Aninku yn Brundibár

31 Mai 2019

Un o'r nifer o uchafbwyntiau Tymor RHYDDID WNO, sy'n cael ei gynnal y mis hwn, yw'r tri pherfformiad o Brundibár. Mae'n opera swynol i blant sy'n rhoi'r profiad arbennig i Opera Ieuenctid WNO weithio dan arweinyddiaeth greadigol David Pountney (Cyfarwyddwr Artistig WNO) a Tomáš Hanus (Cyfarwyddwr Cerdd WNO) - a hynny am y tro cyntaf i'r Opera Ieuenctid. Cawsom sgwrs â Manon, aelod o grŵp 10-14 oed Opera Ieuenctid WNO yn Ne Cymru, sy'n chwarae Aninku, ynglŷn â'i phrofiad gyda'r Opera Ieuenctid ac ymarfer ar gyfer Brundibár

Sut ddechreuaist gyda'r Opera Ieuenctid am y tro cyntaf?
Roeddwn yn ddeng mlwydd oed pan ymunais gyntaf. Clywais amdani pan symudais yma o Ogledd Cymru a meddyliais yn syth y byddai'n gyfle gwych i mi wella fy sgiliau cerddorol a chyfarfod â phobl newydd.

Beth yw'r agwedd fwyaf cyffrous am yr Opera Ieuenctid?
Mae'n hynod gyffrous bod yn rhan o grŵp proffesiynol ac mae'n wych cael cyfle i fod yn rhan o sioe fawr hefyd. Rydych yn gweld popeth sy'n digwydd cefn llwyfan a faint o ymdrech, gwaith caled ac ymroddiad sydd eu hangen i bobl greu a chyflwyno perfformiadau fel hyn.

Dywed wrthym am dy gymeriad yn Brundibár.
Rwy'n chwarae Aninku, un o'r brodyr a'r chwiorydd sy'n ddau brif gymeriad yn y sioe. Mae fy mrawd, Pepíček, a minnau yn mynd i chwilio am laeth i'n mam sâl ac yn dod wyneb yn wyneb â'r dihiryn, Brundibár, gyda chymorth gan gi doeth, cath awyddus, aderyn y to gwrol a rhai o blant y dref. Mae fy nghymeriad yn anarferol o aeddfed o'i hoed oherwydd bod ei thad wedi marw pan oedd yn ifanc a'i mam yn wael ei hiechyd. Gwnaiff unrhyw beth i helpu ei theulu.

Pa sgiliau y mae Opera Ieuenctid wedi dy helpu di i'w gwella?
Mae wedi datblygu fy sgiliau i ddarllen ar yr olwg gyntaf a darllen cerddoriaeth. Teimlaf fy mod yn fwy hyderus gyda'm sgiliau cymdeithasol gan fy mod wedi cyfarfod â chymaint o bobl newydd. Credaf hefyd fy mod wedi gwella fy sgiliau canu ac actio ers i mi ddechrau am y tro cyntaf.

Beth wyt ti'n ei fwynhau fwyaf am fod ar lwyfan?
Rwyf wrth fy modd â sut gallwch gofleidio cymeriad newydd a dod yn rhywun hollol wahanol. Y cyffro o fod ar y llwyfan yw un o fy hoff deimladau ac mae hefyd yn hwyliog iawn bod yn rhan o grŵp.

Beth wyt ti wedi'i ddysgu yn ystod dy baratoadau ac ymarferion Brundibár?
Rwyf wedi dysgu i fod yn fwy empathig gan fod angen i chi ddeall sut mae'r cymeriad yn teimlo a sut y byddai'n ymateb i wahanol sefyllfaoedd. Yn ogystal, rwyf wedi dysgu am y broses gefn llwyfan o sut mae sioeau yn cael eu rhoi ynghyd a'r holl waith sy'n cael ei wneud y tu ôl i'r llen. Cawsom weithdy hynod ddiddorol i roi gwybod mwy i ni am hanes Brundibár - gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â'r Holocost - a oedd yn help i ni ddeall y cyd-destun y tu ôl i'r opera a pham ei bod yn bwysig. Rhoddwyd lluniau a thestunau i ni o ddyddiaduron y plant a gafodd eu cadw yn Terezín ac i fod yn onest, collais ddeigryn o ddarllen rhai o'r rhain.

Beth yw dy freuddwydion ac uchelgeisiau dros y rhai blynyddoedd nesaf - a wyt ti eisiau parhau i berfformio?
Ydw! Byddwn wrth fy modd yn bod yn rhan yn hynny o gynyrchiadau â phosibl dros y rhai blynyddoedd nesaf gydag WNO a gyda fy ysgol uwchradd. Mae gennyf dipyn o amser eto (rwy'n 12 oed) i benderfynu ar beth i'w wneud o ran perfformio. Fy mreuddwyd ar y funud fyddai gyrfa yn theatr gerdd y West End, ond pwy a ŵyr?


Cefnogir Brundibár gan David Seligman ac er cof am Philippa Seligman, gan Gibbs Charitable Trust ac Edith Rudinger Gray Charitable Trust. 





Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.