Diwrnodau Darganfod Opera

Mae Diwrnodau Darganfod Opera WNO yn dangos y gwahanol elfennau sydd eu hangen i lwyfannu opera. Bydd y diwrnodau’n cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd, perfformiadau a phrofiadau rhyngweithiol. 

Dewch draw i fwynhau cyfres o ddatganiadau byr gan ein cantorion a'n cerddorion; gweld sut mae ein tîm Wigiau yn gweddnewid cantorion i'r cymeriadau enwog a welwch ar y llwyfan; darganfyddwch sut mae ein gwneuthurwyr Propiau yn creu'r eitemau rhyfedd a rhyfeddol sy'n ymddangos ar y set; ac edrychwch yn fanylach ar rai o'r gwisgoedd anhygoel sy'n cael eu creu gan ein hadran Gwisgoedd.

Os ydych eisiau cymryd mwy o ran, bydd yna weithdai cerddoriaeth a chanu (mae angen archebu ymlaen llaw) ac i aelodau iau'r teulu, cyfle i gael paentio eu hwynebau. 

Gadewch i ni eich tywys i mewn i'n byd a rhannu rhai o'n cyfrinachau â chi.