
Trosolwg
Archwiliwch y byd opera gyda phodlediad newydd sbon Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae dwy gyfres i'n podlediad; un Saesneg - The O Word - ac un yn Gymraeg - Cipolwg.
Mae'r ddwy gyfres yn archwilio gwaith a chyrhaeddiad ehangach Opera Cenedlaethol Cymru ac yn amlygu rôl opera o fewn ein bywydau ni heddiw. Boed ar lwyfan neu o fewn y gymuned, cymerwch gip ar weithrediad mewnol cwmni teithiol a darganfyddwch sut y gall opera drawsnewid bywydau.

The O Word
Ymunwch â'r newyddiadurwr sy'n frwd dros opera, Gareth Jones, yn ei archwiliad o fyd opera, ar y llwyfan a thu hwnt. Gyda gwesteion yn amrywio o gerddorion adnabyddus ledled y byd i ffigyrau amlwg o fewn y celfyddydau, diwylliant a thu hwnt, bydd Gareth yn ceisio datrys rhai o bynciau llosg byd opera.

Cipolwg
Ymunwch â'r comedïwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn Rhyl, wrth iddi gymryd ‘cipolwg’ ar y byd opera. Caiff Lorna sgwrs â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa wrth archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol.
Mae'r ddwy gyfres ar gael i'w lawrlwytho o nifer o gyfarwyddiaduron podlediadau, gan gynnwys Apple Podcasts, Google Podcasts a Spotify. Dim ond chwilio am 'The O Word', 'Cipolwg' neu 'Opera Cenedlaethol Cymru' ar gyfrwng podlediad o'ch dewis sydd angen ei wneud, a chofiwch danysgrifio.
The O Word
The O Word
Ymunwch â'r newyddiadurwr sy'n frwd dros opera, Gareth Jones, yn ei archwiliad o fyd opera, ar y llwyfan a thu hwnt. Gyda gwesteion yn amrywio o gerddorion adnabyddus ledled y byd i ffigyrau amlwg o fewn y celfyddydau, diwylliant a thu hwnt, bydd Gareth yn ceisio datrys rhai o bynciau llosg byd opera.
Pennod 1: Beth sydd ei angen i fod yn ganwr opera?
Caiff Gareth sgwrs â'r tenor Gwyn Hughes Jones er mwyn darganfod beth sy'n ofynnol - yn gorfforol, yn feddyliol ac yn ysbrydol - i fod yn ganwr opera yn y flwyddyn 2020. Mewn cyfnod pan mae nifer o gantorion yn wynebu ynysu i ffwrdd o'r llwyfan, pa mor bwysig yw cadw'n weithgar a chynnal meddylfryd cadarnhaol? Pa ddulliau sydd ar gael i amddiffyn a chynnal llais yn ystod y cyfnod o dan gyfyngiadau?
Pennod 2: A oes dyfodol i opera?
Oes gan opera 'broblem delwedd'? Mae Gareth yn edrych i'r dyfodol gydag Aidan Lang (Cyfarwyddwr Cyffredinol, Opera Cenedlaethol Cymru) a James Clutton (Cyfarwyddwr, Opera Holland Park). Hefyd yn ymuno â Gareth mae ffigyrau blaenllaw ym myd opera ieuenctid; Dan Perkin a Sian Cameron, er mwyn trafod y cymhlethdodau sy'n ymwneud â hyfforddi cenhedlaeth nesaf byd opera.
Pennod 3: Sut mae ysgrifennu opera newydd? - Y Gerddoriaeth
Mae Gareth yn ymchwilio er mwyn darganfod sut mae ysgrifenwyr cyfoes yn creu opera o ddim. Cyfrwng yw opera sy'n adnabyddus am ailddyfeisio ac adfywio gweithiau parod, beth yw'r elfennau hanfodol sydd eu hangen er mwyn i opera newydd sbon gynrychioli'r byd cyfoes? Mae'r cyfansoddwr enwog Will Todd yn egluro ei broses ac yn perfformio detholiad o'r opera newydd Migrations.
Pennod 4: Sut mae ysgrifennu opera newydd? - Y Geiriau
Mae Gareth yn cwrdd â'r ysgrifenwyr Shreya Sen-Handley, Edson Burton a Miles Chambers, er mwyn darganfod mwy am eu dulliau unigryw o ysgrifennu libreto am y tro cyntaf. Mae'r libretydd enwog Emma Jenkins, sy'n adnabyddus am weithiau er enghraifft In Parenthesis, hefyd yn ymuno â Gareth i drafod ei phroses ysgrifennu.
Pennod 5: A ydy canu yn dda i chi?
Caiff Gareth sgwrs â chynhyrchydd Opera Cenedlaethol Cymru, Jennifer Hill, ynghylch ffurfio Côr Cysur Opera Cenedlaethol Cymru, prosiect sy'n uno 96 o blant oed cynradd a phobl sy'n byw gyda dementia wrth iddynt rannu profiad corawl. Mae Gareth hefyd yn eistedd gydag Celi Barberia o Sing.
Pennod 6: Beth sydd ei angen er mwyn bod yn ganwr opera?
Mae Gareth yn dychwelyd at y cwestiwn ‘Beth sydd ei angen er mwyn bod yn ganwr opera?‘, gan eistedd i lawr y tro hwn gyda’r Soprano Mary Elizabeth Williams. Gyda’i gilydd maent yn trafod gyrfa Mary Elizabeth hyd yma ac yn ystyried y dyfodol agos ar gyfer y byd opera yn ystod y cyfnod heriol ac ansicr hwn.
Pennod 7: Pam bod angen llais beirniadol arnom?
Gareth yn gwahodd beirniaid blaenllaw y byd celfyddydol a gohebwyr am drafodaeth o amgylch y bwrdd ynglŷn â phwysigrwydd llais beirniadol mewn opera a pherfformiadau byw. Yn ymuno â Gareth mae Rupert Christiansen o The Telegraph; y newyddiadurwraig a chyfansoddwraig Steph Power; y newyddiadurwraig ranbarthol a blogiwr Diane Parkes a Nicola Hayward Thomas o BBC Radio 3.
Pennod 8: Pam mae angen arweinwyr arnom?
Gareth yn cwrdd ag Arweinydd Preswyl Benywaidd WNO, Tianyi Lu, i gael gwybod mwy am rôl arweinydd yn y byd opera. Yn ogystal, eistedda Gareth gyda'r arweinydd Prydeinig, Alexander Joel, ac David Adams o Gerddorfa WNO i drafod yr heriau maent yn eu hwynebu yn ystod perfformiad byw.
Pennod 9: A yw opera yn berthnasol i gynulleidfaoedd ifanc?
Mae Gareth yn cyfweld cantorion a chefnogwyr opera ifanc er mwyn profi a yw opera yn berthnasol i'w cenhedlaeth hwy. Yn cynnwys y bariton John Ieuan Jones, myfyrwraig Coleg Brenhinol Cerddoriaeth a Drama Cymru Rosie Rowell a Max Catalano o Gymdeithas Operatig Prifysgol Caerdydd.
Pennod 10: Beth sydd ei angen i fod yn arweinydd?
Mae Gareth yn cwrdd â Chyfarwyddwr Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru Tomáš Hanus i drafod ei yrfa hyd yma ac er mwyn darganfod beth sydd ei angen i weithio fel arweinydd ar raddfa ryngwladol.
Pennod 11: Pa mor bwysig yw haelioni ym myd opera?
Mae Gareth yn cwrdd â rhoddwyr a chodwyr arian er mwyn trafod sut mae haelioni yn sicrhau dyfodol a goroesiad byd opera. Gan gloddio tu hwnt i'r gweithiau a welir ar y llwyfan, mae Gareth yn archwilio'r gwahanol ffyrdd y gall cyfraniadau ariannol ddod â chelfyddyd opera i ysgolion, cartrefi gofal a hybiau cymunedol ledled y DU.
Pennod 12: Sut ydych chi'n cyfarwyddo opera?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng arwain drama ac arwain opera? Cyfarwyddwr opera, Daisy Evans, yn sgwrsio gyda Gareth am ei dull cyfarwyddo unigryw, sut dechreuodd arni yn y diwydiant a pham oedd fan cebab yn rhan hanfodol o'i chynhyrchiad diweddar o Don(er) Pasquale!
Cipolwg
Cipolwg
Ymunwch â'r comedïwr a'r newyddiadurwr Lorna Prichard, sydd wedi bod â diddordeb gydol oes mewn opera ers iddi weld ei hopera gyntaf yn chwech oed yn Rhyl, wrth iddi gymryd ‘cipolwg’ ar y byd opera. Caiff Lorna sgwrs â chantorion, arweinwyr, arbenigwyr ac aelodau'r gynulleidfa wrth archwilio byd rhyfedd a gwych opera a cherddoriaeth glasurol.
Pennod 1: Campwaith yr Eidal
Yr wythnos hon, caiff yr arweinydd byd enwog Carlo Rizzi sgwrs â Lorna ynghylch poblogrwydd parhaus Giuseppe Verdi. Dadansoddi opera Verdi sydd wedi'i hailddarganfod mae Lorna Les vêpres siciliennes yn ystod diodydd egwyl yr wythnos hon. A down i wybod beth sy'n gwneud Verdi yn un o gampweithiau gorau'r byd opera drwy gwestiynau am opera gan Elin Jones, Dramaturg WNO.
Pennod 2: Y Fenyw Arall
Yn awyddus i wybod mwy am rôl merched ym myd opera, caiff Lorna sgwrs â'r Soprano Elin Pritchard. Gyda'i gilydd maen nhw'n trafod y cymeriadau benywaidd mwyaf dylanwadol ym myd opera. A pha le gwell ar gyfer diodydd egwyl yr wythnos hon na chynhyrchiad newydd Opera Cenedlaethol Cymru o Carmen, sy'n cynnwys ymddangosiad cyntaf Elin fel Micaëla. Yn nes ymlaen, bydd Dramaturg WNO, Ellin Jones, yn cael aduniad â Lorna ar gyfer ychydig o gwestiynau ynghylch Carmen.
Pennod 3: Mozart yn y Jyngl
Mae Lorna yn cwrdd â'r bariton John Ieuan Jones ac yn ailddarganfod ei hangerdd tuag at Mozart. Rydym wedyn yn ymuno â hi ar gyfer diodydd egwyl yn ystod The Marriage of Figaro. Beth sy'n sicrhau bod y ffefryn Mozart hwn yn sefyll ei dir? Ac yn ddiweddarach, dewch i wybod popeth sydd angen ei wybod am y cyfansoddwr plant athrylithgar gydag Elin. A ysgrifennodd Mozart yr agorawd i Don Giovanni ar ddiwrnod y perfformiad mewn gwirionedd?
Pennod 4: Mae cerddoriaeth gyda chi drwy'r amser
Mae Lorna yn cwrdd â Sian Meinir o Gorws WNO ac yn trafod ei chysylltiad â rhai o brosiectau ieuenctid a chymuned cyffrous Opera Cenedlaethol Cymru. Daw diodydd egwyl yr wythnos hon â thro yn y gynffon, wrth i Lorna ryngweithio ag aelodau'r gynulleidfa yn dilyn cyngerdd cymunedol Opera Cenedlaethol Cymru yn y Galeri, Caernarfon. Ac yntau ar fin troi'n 250, Beethoven yw testun cwestiynau opera'r wythnos hon.
Pennod 5: Cav&Pag Rhan 1
Mae Lorna yn sgwrsio gyda'r tenor clodwiw Gwyn Hughes Jones am ei yrfa llewyrchus. Yn ymuno gyda ni am ddiod egwyl rhithiol mae gwestai arbennig iawn, Mam Lorna! Maent yn gwylio a thrafod perfformiad o Cavalleria Rusticana, sef ffocws cwestiynau'r wythnos yma gan ein Dramaturg, Elin Jones.
Pennod 6: Cav&Pag Rhan 2
Yn ystod ail ran rhifyn arbennig Cav&Pag bydd Lorna yn gorffen ei sgwrs gyda Gwyn Hughes Jones ac yn trafod Pagliacci dros ddiod.
Pennod 7: Beth am Strauss?
Lorna yn cwrdd â'r Soprano Fflur Wyn ac yn archwilio ei chysylltiadau â gwaith Richard Strauss. Yn ddiweddarach, âi Lorna a'i Mam am ddiod mewn egwyl rithwir yn ystod perfformiad wedi'i recordio o Der Rosenkavalier. Ac mae Elin yn ôl gyda chwestiynau yn archwilio repertoire amrywiol Strauss.
Pennod 8: Gwleidyddiaeth mewn Opera
Lorna sy'n trafod rôl gwleidyddiaeth mewn opera a cherddoriaeth glasurol. Pwnc diodydd egwyl a chwestiynau yr wythnos hon yw campwaith Verdi, Rigoletto.
Pennod 9: A Vixen's Tale
Mae Lorna yn cwrdd â'r soprano Meriel Andrew i drafod uchafbwyntiau ei gyrfa a darganfod sut brofiad oedd rhannu'r llwyfan gyda'i merch Martha mewn perfformiad diweddar o The Cunning Little Vixen.
Pennod 10: Madam Butterfly
Mae Lorna yn cwrdd â'r cyfarwyddwr Angharad Lee i drafod ei gwaith ar gynhyrchiad diweddar o Madam Butterfly. Mae'r clasur parhaus gan Puccini hefyd yn ganolbwynt diodydd egwyl a chwestiynau'r wythnos hon gyda Dramaturg WNO Elin Jones.