Rhwng 2013 a 2016, roedd Adam yn hyfforddi yn Trinity Laban Conservatoire of Music and Dance.
Bu’n gweithio ym maes datblygu eiddo a bu’n gymhorthydd dysgu mewn ysgol gynradd cyn astudio yn llawn amser. Wedi hynny, ymunodd ag English Touring Opera.
Ymhlith uchafbwyntiau Adam gyda WNO hyd yma y mae teithio i Dubai a pherfformio yn From the House of the Dead: ‘Roedd yn waith caled ac yn ymdrech enfawr gan y tîm, ond roedd hi’n hawdd gweld bod y gynulleidfa wir yn mwynhau.’
Diddordebau Adam y tu hwnt i WNO yw byd y ffilmiau, cerddoriaeth, ffrindiau a theithio.