Trosolwg
Aidan Lang yw Cyfarwyddwr Cyffredinol WNO. Cyn ei swydd bresennol, roedd yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Seattle Opera o 2014-2019, ac yn Gyfarwyddwr Cyffredinol New Zealand Opera o 2006-2014.
Dechreuodd ei yrfa fel Cyfarwyddwr Staff yn Glyndebourne, cyn ymuno ag Opera Cenedlaethol Cymru, lle cyfarwyddodd gynyrchiadau o The Barber of Seville a Hanseland Gretel ar gyfer teithiau bach, yn ogystal â chynhyrchiad raddfa mawr o Count Ory.
Ym 1990, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Artistig cyntaf Opera Zuid, cwmni teithio newydd bryd hynny wedi ei leoli yn Maastricht, yn yr Iseldiroedd. Ymhlith ei gynyrchiadau roedd Werther, Ariadne auf Naxos, Don Giovanni a The Cunning Little Vixen. Law yn llaw â hyn, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Cynhyrchu i Glyndebourne Touring Opera, lle ymhlith gweithiau eraill, cyfarwyddodd La bohème a'r perfformiad cyntaf ym Mhrydain o Cornet Christoph Rilke's Song of Love and Death gan Siegfried Matthus.
Rhwng 2000-2006, roedd yn Gyfarwyddwr Artistig Buxton Festival, ac yn brysur yn gweithio fel cyfarwyddwr llawrydd ledled y byd, yn cynnwys y cynhyrchiad cyntaf ym Mrasil o Ring Wagner yn adeilad hanesyddol Teatro Amazonas yn Manaus. Ymhlith ei weithiau nodedig eraill mae Il ritorno d'Ulisse in patria Monteverdi (Lisbon) The Turn of the Screw (Salzburg) a'r perfformiad cyntaf ym Mhrydain o The Magic Fountain gan Frederick Delius (Scottish Opera).
Yn 2006, daeth Lang yn Gyfarwyddwr Cyffredinol New Zealand Opera, gan weithio yno tan 2014. Roedd yn gyfrifol am ehangu cyrhaeddiad y cwmni y tu hwnt i'w ganolfannau perfformio gwreiddiol yn Auckland ac Wellington i gynnwys Christchurch, gan ail-frandio New Zealand Opera i fod yn gwmni cenedlaethol gwirioneddol sy'n gwasanaethu'r wlad gyfan.
Yn 2014, symudodd i America i fod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Seattle Opera. Yn ystod ei gyfnod yn Seattle, gwelwyd cynnydd yn nifer y bobl ifanc oedd yn mynd i weld operâu, yn ogystal â datblygu ac agor canolfan opera newydd gwerth $60 miliwn yno, sy'n gartref i holl weithrediadau Seattle Opera, gan gynnwys cyfleusterau pwrpasol ar gyfer ei raglenni addysg ac ymgysylltu â'r gymuned sydd wedi tyfu'n aruthrol.
Ym mis Gorffennaf 2019, dychwelodd i WNO fel ei Gyfarwyddwr Cyffredinol.