
Trosolwg
Hyfforddodd Angharad yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Academi Llais Ryngwladol Cymru gyda Dennis O’Neill. Yn WIAV, cafodd ei mentora gan y Fonesig Kiri Te Kanawa, ac ar hyn o bryd mae Nuccia Focile yn diwtor iddi. Cyn ymuno â WNO, roedd hi'n Artist Ifanc Jerwood yn Glyndebourne Festival Opera. Mae hi hefyd wedi gweithio gydag Opera Dinas Abertawe, Opera Project ac Wexford Opera, ac wedi perfformio fel unawdydd llawrydd gyda’r Royal Liverpool Philharmonic Orchestra a cherddorfeydd enwog eraill ledled y DU. Y tu allan i WNO, mae hi wrth ei bodd â llyfrau a wastad â’i thrwyn mewn llyfr!
Gwaith diweddar: Baroness Candide, First Bridesmaid The Marriage of Figaro, unawdydd Ffefrynnau Opera, Second Alms Sister Suor Angelica & Gianni Schicchi, Bronwen Blaze of Glory! (i gyd gyda WNO).
