Cwrdd â WNO

Carolyn Jackson

Mezzo

Ganwyd Carolyn ym Manceinion ac astudiodd yn y Royal Northern College of Music. Ymunodd â Chorws Scottish Opera ym 1995 a thair blynedd yn ddiweddarach aeth ymlaen i ddilyn gyrfa lawrydd.

Mae Carolyn wedi cymryd rhan mewn prosiectau ar gyfer European Voices a Syr Simon Rattle gan gynnwys Wonderful Town (Berlin), Requiem Brahms (Cologne), Peter Grimes, Idomeneo, a Simon Boccanegra gyda Claudio Abbado (Gŵyl Salzburg). Mae hi hefyd wedi perfformio yn Tannhauser ar gyfer Opera National de Lorraine, ac yn Macbeth ar gyfer Scottish Opera (yng Ngŵyl Fienna). Yn y DU, mae hi wedi gweithio i sawl cwmni a gŵyl fawr gan gynnwys Buxton, Garsington ac Opera North.

Yn 2011, ymunodd Carolyn â Chorws WNO. Mae ei huchafbwyntiau personol yn cynnwys chwarae Mr Mole yn The Cunning Little Vixen a Churchill yn Rhondda Rips It Up!, yn ogystal â theithio i Oman, y Ffindir a Dubai.