Cwrdd â WNO

Claire Hampton

Soprano

Ganwyd Claire yn Swydd Stafford a dechreuodd ei hyfforddiant proffesiynol yn y Royal Northern College of Music. Parhaodd â’i hyfforddiant ar ôl ennill ysgoloriaeth fawr gan Sefydliad Peter Moores.

Ymunodd Claire â Chorws WNO yn 2002. Uchafbwynt personol oedd ei rôl gyntaf i’r cwmni, Jana yn Jenůfa, a gyfarwyddwyd gan Katie Mitchell. Cafodd hwn ei recordio’n ddiweddarach ar gyfer Chandos Records dan arweinyddiaeth Syr Charles Mackerras. Mae wedi mwynhau sawl blwyddyn gydag WNO, fel aelod o’r côr ac fel prif artist, ac mae’n gobeithio mwynhau llawer mwy o flynyddoedd yn creu cerddoriaeth yn y dyfodol.

Gwaith diweddar: Dafad 1 Candide, Ymgeisydd Cyntaf Suor Angelica, Geneth Ffrengig | Chwaraewr Crwydrol Death in Venice (pob un gydag WNO).