
Trosolwg
Mae Francesca, y mezzo Eingl-Eidalaidd, yn gyn-fyfyriwr Ysgol Gerdd Chetham, y Royal Birmingham Conservatoire, ac Academi Llais Ryngwladol Cymru. Ymddangosodd am y tro cyntaf ar y llwyfan proffesiynol gyda Wexford Festival Opera, cyn mynd ymlaen i berfformio rolau yn yr Eidal, yr Iseldiroedd, Ffrainc a’r Dwyrain Canol. Mae hefyd wedi perfformio fel rhan o’r ensemble cerddoriaeth ar gyfer y Royal Shakespeare Company.
Mae ei rolau yn WNO yn cynnwys: Paquette Candide, Ail Forwyn Briodas The Marriage of Figaro, Page Rigoletto, Flora Bervoix La traviata, Karolka Jenůfa.