
Wedi'i eni yn Swydd Gaerlŷr, astudiodd Howard yn y Coleg Brenhinol Cerdd a Drama ac astudiodd y cwrs Opera yn Ysgol Gerdd a Drama Guildhall hefyd. Cyn ymuno â Chorws WNO yn 2004, perfformiodd i Wexford Festival Opera, English Touring Opera, Glyndebourne Festival and Touring Opera, ac ENO.
Y tu allan i WNO, mae Howard yn mwynhau treulio amser yn y gegin yn pobi bara surdoes ac yn coginio cynnyrch mae'n ei dyfu gartref. Mae hefyd yn frwd am gadw gwenyn.
Mae ei rolau yn WNO yn cynnwys: Baron Candide, Gaston La traviata, Benoit La bohѐme, Monostatos The Magic Flute.
