Astudiodd Huw yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac yna yn Ysgol Opera Genedlaethol Benjamin Britten yn y Coleg Cerdd Brenhinol. Cyn ymuno ag WNO, bu’n athro canu ym Mhrifysgol Bangor, Coleg Menai a Chanolfan Gerdd William Mathias. Hefyd, bu’n gweithio llawer gyda thîm Rhaglenni ac Ymgysylltu WNO, gan berfformio mewn cyngherddau ac arwain gweithdai i ysgolion a digwyddiadau Dewch i Ganu, ac ef oedd arbenigwr llais Opera Ieuenctid Gogledd Cymru. Bu hefyd yn gapten tîm ar gyfer y côr Only Boys Aloud.
Mae Huw yn wirioneddol fwynhau bod yn rhan o Gôr WNO: ‘Mae pob diwrnod yn cynnwys ei uchafbwynt ei hun. Rydw i’n lwcus bod gennyf swydd mor unigryw yng nghwmni cydweithwyr a chyfeillion mor dalentog.’
Yn ei amser hamdden, mae Huw yn mwynhau rhedeg a beicio. Mae wrth ei fodd yn gwrando ar wahanol genres o gerddoriaeth yn ogystal ag opera, megis roc a metel, ac mae’n gitarydd trydan brwd.
Rolau diweddar: Barnwr 1 | Señor 1 Candide, Unawdydd Ffefrynnau Opera, Parpignol La bohème (pob un gydag WNO).