
Mae Meriel o Giliau Aeron yng Ngorllewin Cymru. Yn dilyn cwblhau ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth i ddysgu Saesneg yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Yna fe wnaeth Gwobr y Fonesig Eva Turner ei galluogi i fynd i'r Royal Northern College of Music. Mae gwobrau pellach yn cynnwys Gwobr John Ireland, Canwr y Flwyddyn Cymry Llundain a Gwobr Cymry Manceinion.
Mae rolau operatig yn cynnwys: Romilda Xerxes, Countess Almaviva The Marriage of Figaro, Pamina The Magic Flute a’r Governess The Turn of the Screw.
Un o uchafbwyntiau personol Meriel gyda WNO oedd rhannu'r llwyfan gyda'i merch 10 oed yn The Cunning Little Vixen, lle wnaethon nhw berfformio fel Chief Hen a Foxcub. Y tu allan i WNO, mae hi’n mwynhau ymdrochi dŵr oer yn y môr, teithiau carafán a gwau.
Mae rolau a chyflenwadau yn WNO yn cynnwys: Barbarina The Marriage of Figaro, English Lady | Lace Seller Death in Venice, Sandman | Dewfairy Hansel and Gretel, Hanna Glawari The Merry Widow, Mimi La bohѐme (yng Ngŵyl Hong Kong).