Cwrdd â WNO

Monika Sawa

Soprano

Mynychodd Monika goleg cerddoriaeth yng Ngwlad Pwyl ac mae ganddi ddiploma ôl-raddedig o Goleg Cerddoriaeth Llundain. Cyn ymuno â WNO yn llawn amser, gweithiodd fel ecstra yng Nghorws Scottish Opera, ENO ac WNO. Mae wedi perfformio gyda Pavilion Opera ac wedi canu mewn cyngherddau yn y DU a thramor.

Mae uchafbwyntiau Monika gydag WNO hyd yn hyn yn cynnwys canu ym Mhalas Buckingham a theithio i Oman, y Ffindir a Dubai. Mae hefyd wedi mwynhau rolau canu gan gynnwys Susanna yn Khovanshchina a Cleaning Lady yn The Makropulos Affair. Yn ystod Tymor 25/26, mae’n perfformio Mary yn The Flying Dutchman. Y tu hwnt i’w gwaith gydag WNO, mae’n mwynhau coginio, ioga a bod yn fam.

Gwaith diweddar: Marcellina The Marriage of Figaro, Sister Dolcina Suor Angelica (i gyd gyda WNO).