Cwrdd â WNO

Paula Greenwood

Soprano

Dechreuodd Paula ei hastudiaethau llais yn Nulyn, ac wedi hynny enillodd sawl gwobr yng nghystadlaethau Siemens Feis Ceoil ble derbyniodd radd M.Mus o’r Dublin Conservatory of Music yn 2004. Enillodd wobr Opera Blyth-Buesst a gwobr A.M. Parker tra oedd yn astudio yn yr Royal Academy of Music, Llundain, gan raddio gyda rhagoriaeth yn 2007. Daeth cyfle i astudio ar ysgoloriaeth gan y tenor enwog Dennis O’Neill yn Academi Llais Rhyngwladol Cymru â hi i Gaerdydd.

Mae perfformiadau proffesiynol Paula yn cynnwys Currency (Denis Roche, Diversions Festival) yn ogystal ag Opera Van Gogh gan Michael Gordon gyda’r Crash Ensemble. Canodd Paula ran Barbarina yn Le Nozze di Figaro i Lyric Opera yn yr National Concert Hall, Dulyn ac ar daith gyda’r cwmni o Ddulyn, yr Opera Theatre Company yn 2007.

Mae profiad oratorio helaeth Paula’n cynnwys Petite Messe Solennelle gan Rossini yn Richelieu, Stabat Mater gan Haydn yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon a’r Sea Symphony yng Ngŵyl y Three Choirs. Ymhlith ei pherfformiadau oratorio diweddaraf y mae’r Meseia gan Handel gyda Birmingham Symphony Orchestra yn yr Symphony Hall and Town Hall, Birmingham.

Ymunodd Paula â WNO yn 2013 a dirprwyodd a pherfformio rhan Papagena yn The Magic Flute yn 2015 ac Alyeya yn From the House of the Dead yn 2017. Ei phrofiad opera mwyaf annisgwyl oedd pan ofynnodd y tenor Corws Joe Roche iddi ei briodi ar lwyfan Canolfan Mileniwm Cymru yn ystod yr ymarfer gwisgoedd o Lohengrin yn 2013.

Diddordeb Paula y tu hwnt i’r WNO yw cerdded eu dau ddaeargi ym Mharc y Waun, Caerdydd.