Oherwydd amgylchiadau newidiol y pandemig cyfredol mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi addasu ein Tymor y Gwanwyn, fel y cyhoeddwyd yn ddiweddar gan ein Cyfarwyddwr Cyffredinol, Aidan Lang. 

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn gobeithio dychwelyd i'r llwyfan gyda'r doniol The Barber of Seville, y dialgar Il trovatore a Chwarae Opera YN FYW, fersiwn cyngerdd egniol o'n cyfres deuluol arlein

Trwy gyfres o ddigwyddiadau digrif a thwyll, mae Figaro yn chwarae Ciwpid. Bydd stori ffraeth Rossini am gariad, chwant a thwyll, The Barber of Seville, yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, Tomáš Hanus

Daw'r triongl cariad yn we ddryslyd o dwyll gan arwain at aberth, cenfigen a llofruddiaeth yn Il trovatore Verdi. Yn cynnwys sgôr byddarol sy'n cynnwys yr hynod adnabyddus Anvil Chorus, mae Mary Elizabeth Williams yn dychwelyd i WNO fel Leonora yng nghynhyrchiad bythol WNO. 

Mae amserlen y daith ac amser y perfformiadau i'w gadarnhau. Os ydych eisoes wedi archebu tocyn ar gyfer ein Tymor y Gwanwyn, gan gynnwys Der Rosenkavalier a Faust sydd wedi 'u ohirio, bydd eich theatr mewn cysylltiad maes o law i drafod cyfnewid tocynnau neu ad-daliadau.