Bydd WNO'n torri calonnau noson ar ôl noson yng Ngwanwyn 2022 gyda thriawd o operâu hudolus.   

Mae’r Tymor yn agor gyda chynhyrchiad clasurol John Caird o Don Giovanni gan Mozart. Wedi’i osod yn ystod Oes Aur Sbaen, mae merchetwr mwyaf y byd opera’n ei ôl ac yn ymddwyn yn eithriadol o ddrwg. Gwyliwch wrth i'w ffordd o fyw hedonistaidd ei faglu yn y pendraw ac mae'n cael ei orfodi i wynebu'r gosb eithaf. Bydd Andrei Kymach a Duncan Rock yn rhannu’r brif rôl; Marina Monzo (Rigoletto WNO) a Linda Richardson (La traviata WNO) yn rhannu rôl Donna Anna, a Simon Bailey (War & Peace WNO) fel Leporello, cyfrinachwr y Don.

Byddwn wedyn yn cyflwyno ein cynhyrchiad wedi'i aildrefnu o Jenůfa, sy'n rhan o Gyfres Janáček WNO. Bydd Tomáš Hanus yn arwain stori dorcalonnus Katie Mitchell o obaith, cariad ac anobaith. Bydd Elizabeth Llewellyn yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf gyda’r Cwmni yn y brif rôl, a bydd Eliška Weissová yn canu rôl Kostelnička Buryjovka.

Bydd cynhyrchiad newydd WNO o Madam Butterfly hefyd yn cael ei gynnwys yn y Tymor, gyda nifer cyfyngedig o berfformiadau yng Nghaerdydd, rhag ofn eich bod wedi ei fethu yn ystod Tymor yr Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. 

Am ganllawiau diogelwch yn ein lleoliadau, cliciwch yma