
Digwyddiadau i aelodau WNO
Fel un o Gyfeillion neu Noddwyr gwerthfawr WNO, gallwch gael mynediad at ddigwyddiadau unigryw ‘y tu ôl i’r llenni’.
Mwynhewch y cyfle i gael sbec ar ymarferion yn mynd rhagddynt, dewch i gwrdd ag aelodau o dîm WNO, crwydrwch du ôl i'r llen, a mwy.
Gweler isod y digwyddiadau sydd ar gael i'w harchebu ar hyn o bryd, gyda rhagor o ddyddiadau i'w cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn - felly cofiwch gadw llygad arnynt.
Mae'r aelodau sydd ar ein lefelau Noddwyr uwch yn mwynhau cyfleoedd gwell fyth i ymgysylltu'n agosach ag WNO. O wahoddiadau i ymarferion llwyfan arbennig, mynediad at artistiaid a dathliadau noson agoriadol, i ddigwyddiadau cynghrair yn cynnig cipolwg tu ôl i'r llen ar gynyrchiadau newydd, mae'r profiadau hyn yn darparu cysylltiad unigryw â chalon greadigol y Cwmni.
Oherwydd eu nifer cyfyngedig, mae aelodau'n gymwys ar gyfer uchafswm o ddau docyn oni bai y nodir yn wahanol ar y manylion am y digwyddiad. Mae mynediad at ymarferion ar ddisgresiwn y tîm creadigol a gall newid.
I archebu digwyddiadau neu ddysgu rhagor am ymuno â'n Noddwyr, Cynghrair, neu Gylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r profiadau sydd ar gael ar bob lefel, cysylltwch â'r Tîm Datblygu drwy ffonio 02920 63 5000 neu dros e-bost development@wno.org.uk..
Digwyddiadau i aelodau:

Dewch i gwrdd â’r Archifwyr a'r Llyfrgellydd
Ar agor i Noddwyr a Cylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol
Tocynnau: £15.00
Dyddiadau: Dydd Mawrth 5 Mai, 10am i 12.30pm.
Ymunwch ag archifwyr gwirfoddol am fore hynod ddifyr yn ymchwilio i drysorau archif a llyfrgell gerddoriaeth WNO. Mwynhewch leoliad hamddenol ac anffurfiol wrth ddysgu am y straeon, yr arteffactau, a'r hanes sy'n mapio taith WNO, gyda digon o gyfle i ofyn cwestiynau ac i rannu eich atgofion eich hun.
Oherwydd y capasiti lle, nifer cyfyngedig o leoedd yn unig sydd ar gael, gan gynnig profiad clos a phersonol.
Rydym hefyd yn gobeithio trefnu digwyddiad ar raddfa fwy gyda'n harchifwyr yn ddiweddarach eleni, lle bydd modd i fwy o Aelodau weld eitemau dethol yn cael eu harddangos - yn debygol o fis Mawrth 2026. Rhagor o fanylion i ddod.

Rhagolwg i Noddwyr
Yn agored i Noddwyr a Cyfarwyddwr Cyffredinol
Dyddiad: Dydd Iau 12 Mai
Ymunwch â Sarah Crabtree ac Adele Thomas, Cyd-Gyfarwyddwyr Cyffredinol/Prif Swyddogion Gweithredol, am gipolwg arbennig ar y weledigaeth y tu ôl i’w tymor cyntaf o raglenni ar gyfer Opera Cenedlaethol Cymru. Mae'r rhagolwg hamddenol hwn yn rhoi’r olwg gyntaf ar y cyfeiriad artistig a'r repertoire dewisol, gydag amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.
Darperir te a choffi.
Manylion pellach i ddilyn - mae croeso i chi gofrestru eich diddordeb yn y cyfamser.

Cyfres Weminar Ar-lein
Ar agor i'n holl Aelodau - Cyfeillion, Noddwyr a Chylch y Cyfarwyddwr
Tocynnau: Yn rhad ac am ddim i fynychu.
Amser: 5.30-7pm.
Ewch y tu ôl i'r llen i ddarganfod byd o WNO drwy ein cyfres weminar newydd. Mae'r digwyddiadau ar-lein arbennig hyn yn cynnig cipolwg rhyfeddol ar wahanol feysydd o'n gwaith - o'r gelfyddyd ar y llwyfan i'r creadigrwydd a'r cydweithrediad sy'n dod â'n cynyrchiadau'n fyw.
Opera i Bawb
Dyddiad: Dydd Iau 14 Mai
Dewch i archwilio gwaith ein tîm Rhaglenni ac Ymgysylltu a dysgwch sut mae WNO yn defnyddio opera i ysbrydoli creadigrwydd, hyder a chysylltiad o fewn cymunedau ledled Cymru a thu hwnt.

Tu Ôl i’r Llen yn Storfeydd Eastmoors
Ar agor i Noddwyr a Chylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol
Tocynnau: £20.
Dyddiadau: Dydd Iau 18 Mehefin, Dydd Mawrth 7 Gorffennaf, Dydd Mawrth 14 Gorffennaf, 11am i 1pm.
Mentrwch y tu ôl i'r llen i weld lle mae hud cynyrchiadau WNO yn cael ei greu. Ymunwch â Judith Russell, Pennaeth Cwpwrdd Dillad Teithiol WNO, am daith dywys o'n storfeydd Eastmoors yng Nghaerdydd, lle cewch weld casgliad rhyfeddol o setiau, propiau a gwisgoedd yn agos.
Mae'r teithiau hyn o grwpiau bach yn cynnig cyfle prin i ddarganfod y gelfyddyd, y manylder a'r crefftwaith y tu ôl i gynyrchiadau WNO, gyda digonedd i'w weld a straeon i'w mwynhau ar hyd y ffordd.
Nodwch: mae'r teithiau'n cynnwys cludiant i Ganolfan Mileniwm Cymru ac oddi yno a dim ond mynediad grisiau sydd ar gael (dim lifft).


Opening night celebrations - WMC, Cardiff
By Invitation only for Gold Sponsors, Platinum Sponsors and the General Director's Circle*
Double Bill - Sunday 20 SeptemberLa Boheme - Sunday 27 September
Members at Gold Patron level and above who have booked tickets to our opening night performances in Cardiff will receive a special invitation to join the Development Team and guests for pre-show drinks to celebrate the start of each new production.
These special occasions offer a great opportunity to get together with fellow fans and members of the WNO team to mark the excitement of the opening night.
*Invitations will be given in proportion to the level of support given to the ongoing work of WNO.
Os oes gennych anghenion mynediad neu gwestiynau, cysylltwch â ni ar development@wno.org.uk neu ffoniwch 029 2063 5000.

