Cefnogwch War and Peace

Mae War and Peace yn debyg i bob epig rhyfel arall wrth fedru newid cywair mewn amrantiad o fod yn ddrama gyhoeddus i un breifat, o ddwyster i emosiwn preifat at lif o ddycnwch cenedlaethol, a dyma lwyfan ddelfrydol ar gyfer iaith opera: i’n cyffroi ac i greu cynnwrf ynom ar y raddfa fwyaf a’r leiaf bosibl.

Gyda 32 o rolau – 22 ohonynt yn cael eu canu gan Gorws arbennig WNO – mae creu opera mor fawr â hon yn fenter anferthol i’r Cwmni, ac felly byddem yn ddiolchgar pe byddech yn ystyried ein helpu ni i sicrhau bod yr epig Rwsiaidd hon yn cyrraedd y llwyfan. Mae sawl elfen o War and Peace sy’n gofyn am eich cefnogaeth chi, felly cymerwch ran a dewch i ymuno â ni ar gyfer perfformiad o waith arbennig a berfformir yn gymharol anaml.


<% $t(message) %>

£
<% errors.first('amount') %>