Tymor RHYDDID
RHYDDID yn cyflwyno tymor o opera, sgyrsiau a dadleuon cyflenwol yn ogystal ag arddangosfa ddigidol y gallwch ymgolli eich hunain ynddo ac archwilio themâu hawliau dynol.
Mae’n waith ar y cyd sy’n dod â holl feysydd ein cwmni perfformio ynghyd, o Gorws a Cherddorfa hyfryd WNO i’n Hopera Ieuenctid hynod lwyddiannus a Chorws Cymunedol WNO, i bwysleisio gallu parhaus y celfyddydau a diwylliant i ysgogi sylw ar wleidyddiaeth a chymdeithas.
Heb eich cefnogaeth chi ni allem gynhyrchu gwaith mor uchelgeisiol ar y llwyfan nac oddi arno. Chwaraewch eich rhan a helpwch ni i ddweud y gyfres arbennig hon o straeon.