
Rhoi nawr
Drwy gydol y flwyddyn mae
Opera Cenedlaethol Cymru yn mynd ag operâu i naw dinas o amgylch y DU. Y tu
allan i’r perfformiadau hyn mae ein Corws a’n Cerddorfa byd enwog yn teithio i
drefi ac amrywiol wyliau. Mae WNO hefyd yn cynnal rhaglenni hyfforddi ar gyfer
cantorion ifanc o 10 i 25 mlwydd oed.
Nid
dim ond yr hyn rydych chi’n weld ar y llwyfan ydym yn ei wneud. Mae ein cynllun Opera Ieuenctid Cenedlaethol yn darparu cyfleoedd i gantorion ifanc uchelgeisiol ddatblygu eu dawn, eu darparu â hyfforddiant proffesiynol, ac yn cynnig cyfleoedd iddynt berfformio trwy gydol y flwyddyn. Mae eich rhoddion a’ch cefnogaeth yn gwneud gwahaniaeth enfawr, gan ein galluogi ni i agor y byd opera a’i wneud yn hygyrch i bawb.
Rhiant cyfranogwrYn ei thymor cyntaf yn Opera Ieuenctid WNO mae ein merch wedi dysgu caneuon newydd, wedi datblygu ei sgiliau actio ac wedi gweithio gyda phobl broffesiynol WNO. Mae hi wedi mwynhau’r cwbl ac mae ei hyder yn amlwg wedi codi.
Rhowch atgofion. Rhowch fomentau. Rhowch gerddoriaeth.
Rhowch heddiw.