Arweinydd Preswyl Benywaidd

Mae WNO yn ymwybodol o rai o’r heriau y mae menywod yn eu hwynebu wrth ymgymryd â gyrfa fel arweinydd, ac rydym yn awyddus i ddod o hyd i ffyrdd i ailystyried y cydbwysedd rhwng y rhywiau ar draws y diwydiant. Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad rhaglen newydd sy’n benodol i fenywod i gynnig un arweinydd uchelgeisiol rhwng 19-35 oed, swydd breswyl gydag WNO. Bydd y breswylfa yn cynnig mentora gydag arweinydd sefydledig benywaidd arall sy’n gweithio yn y DU, a chefnogaeth mentora gan adrannau gwahanol o fewn WNO, gyda chyfle i weithio’n uniongyrchol â cherddorfa WNO ar draws repertoire gwahanol (prif-lwyfan, ieuenctid a chymuned a phrosiectau cyngherddau teulu), gyda’r bwriad o ddatblygu eich profiad mewn gosodiadau operatig a cherddoriaeth glasurol wahanol. Mae’r breswylfa yn cynnig 18 mis gyda’r cwmni ac yn gallu cael ei drefnu o amgylch eich rhaglen bresennol. Byddwch yn derbyn ysgoloriaeth a chefnogaeth gyda threfniadau teithio.  

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen hon nawr ar gau.  Byddwn yn cyhoeddi’r ymgeisydd llwyddiannus cyn bo hir.