A Vixen’s Tale Profiad realiti estynedig
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Camwch i fyd The Cunning Little Vixen gyda’n profiad realiti estynedig (AR) newydd sbon yr Hydref hwn.
Yn uno cerddoriaeth a theatr gyda thechnoleg ddigidol arloesol, gall y teulu cyfan ‘ddilyn y llwynoges’, a chyfarfod rhai o’i ffrindiau hoffus wrth ichi deithio drwy’r tymhorau.
Wedi ei leoli yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru, bydd ein twnnel maint person yn eich cludo i fyd arddull llyfr gyda lluniau symudol lle gallwch gael eich ysbrydoli gan gerddoriaeth Janáček a’r themâu cylch bywyd a natur.
#WNOdilynwchyllwynoges
Mae A Vixen's Tale yn cynnwys cerddoriaeth The Cunning Little Vixen, opera 3 Act, gan Leoš Janácek. Mae’r fersiwn ddiwygiedig gan Jiri Zahrádka, trwy drefniant gyda Universal Edition A.G. Wien.
Mae ein hidlydd Snapchat yn cynnwys Bezi liska Tábouru ac yn ymddangos trwy garedigrwydd Decca Classics.
Darluniadau gan Xavier Segers