

The Anonymous Lover Joseph Bologne neu Le Chevalier De Saint-George
–Trosolwg
Yn chwareus, ffraeth a chwbl swynol, mae The Anonymous Lover yn gomedi ramantus ddisglair ynglŷn â'r risgiau a'r gwobrau o syrthio mewn cariad.
Mae Léontine, gwraig weddw gyfoethog, yn addo na fydd hi byth yn caru eto ar ôl priodas anhapus. Pan mae llythyrau dirgel ac anrhegion meddylgar yn dechrau cyrraedd gan edmygwr cudd, mae ei phenderfyniad yn dechrau troi. Valocur, ei ffrind, sy’n anfon y pethau hyn ati ac mae’n cuddio pwy ydyw oherwydd ei fod yn ofni cael ei wrthod gan fod ganddo statws is mewn cymdeithas. Wrth i Léontine geisio'r gwir, mae’n rhaid i Valcour benderfynu a yw’n datgelu ei hun neu a yw’n parhau’n anhysbys.
Nid yw The Anonymous Lover yn cael ei pherfformio’n aml a dyma’r unig opera sydd wedi goroesi gan y cyfansoddwr o Ffrainc, Joseph Bologne, ac mae’n dod yn fwy mewn cynhyrchiad newydd, bywiog, gyda’r gerddorfa ar y llwyfan mewn byd llawn egni, yn seiliedig ar faróc. Gan gadw’n driw i sgôr gain Bologne, mae hefyd yn cyflwyno llais newydd, cyfoes sy’n siarad yn uniongyrchol â’r gynulleidfa - mae’n eich gwahodd i ail-edrych, i feddwl yn wahanol, ac i benderfynu drosoch ei hun beth sy’n llywio’r ffordd rydym yn profi celf wych.
Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Mae’n 2 awr a 20 munud o hyd yn cynnwys un egwyl
Caiff ei chanu yn Ffrangeg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg


