

Bluebeard’s Castle + Oedipus Rex Bartok + Stravinsky
Trosolwg
Yn y rhaglen ddwbl bwerus hon, mae dau ddarn o waith eithriadol o’r 20fed ganrif yn dod at ei gilydd mewn byd cyffredin o ddefod, dirgelwch a dwyster seicolegol.
Yn Bluebeard’sCastle, mae Judith yn gadael popeth ar ôl er mwyn bod gyda’r Dug Bluebeard enigmatig. Mae’n darganfod yn fuan bod ei dŷ'n llawn drysau clo ac wrth iddi fynnu bod pob un yn cael ei agor, mae'n dadlennu nid yn unig cyfrinachau ei orffennol, ond rhywbeth llawer mwy cythryblus. Wrth iddi nosi, mae’n amhosibl gwahanu cariad ac ofn.
Yn yr ail hanner, daw'r un gosodiad llwm yn ddinas hynafol Thebes ar gyfer OedipusRex. Mae pla'n lledaenu drwy'r wlad, ac mae’r brenin yn benderfynol o ddatgelu'r gwir y tu ôl iddo. Wrth i'w chwilio ddwysáu, mae’n cael ei orfodi i ddod wyneb yn wyneb â ffawd nad yw’n gallu ei hosgoi. Daw’r hyn sy'n dechrau fel mynd ar drywydd atebion yn ddatgeliad torcalonnus.
Mae’r perfformiad unedig, gothig a llawn awyrgylch hwn yn weledol drawiadol ac yn creu cysylltiadau pwerus rhwng dwy chwedl fythol.
Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Mae'n para am ddwy awr a phum munud gan gynnwys un egwyl
Caiff ei ganu yn Hwngareg a Lladin gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg


