Diwrnod Darganfod Opera
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Ymunwch â ni am ddiwrnod am ddim i'r teulu sy'n cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd, perfformiadau a phrofiadau rhyngweithiol
Ymunwch â ni am ddiwrnod am ddim i'r teulu a fydd yn dangos i chi'r gwahanol elfennau sydd eu hangen i lwyfannu opera. Bydd y diwrnod yn cynnwys arddangosiadau, arddangosfeydd, perfformiadau a phrofiadau rhyngweithiol, y cyfan yn cael eu cynnal yng nghyntedd Canolfan Mileniwm Cymru.
Dewch draw i fwynhau cyfres o ddatganiadau byr gan ein cantorion a'n cerddorion ar lwyfan Glanfa; gweld sut mae ein tîm Wigiau yn gweddnewid cantorion i'r cymeriadau enwog a welwch ar y llwyfan; darganfyddwch sut mae ein gwneuthurwyr Propiau yn creu'r eitemau rhyfedd a rhyfeddol sy'n ymddangos ar y set; ac edrychwch yn fanylach ar rai o'r gwisgoedd anhygoel sy'n cael eu creu gan ein hadran Gwisgoedd.
Os ydych eisiau cymryd mwy o ran, bydd yna weithdai cerddoriaeth a chanu (mae angen archebu ymlaen llaw) ac i aelodau iau'r teulu, cyfle i gael paentio eu hwynebau. Gadewch i ni eich tywys i mewn i'n byd a dangos rhai o'n cyfrinachau y tu ôl i'r llenni i chi.
The Nightingale
Dydd Sul 14 Mehefin 2020 3pm
Yn ganolog i’n Diwrnod Darganfod Opera mae cyfle i weld opera fer (un awr) am bris rhesymol i deuluoedd. Tocynnau £10 (oedolion) a £5 (plant).
Yn seiliedig ar stori dylwyth teg Hans Christian Andersen, mae The Nightingale yn cynnwys wyth canwr a chast o bypedau o faint pobl yn ogystal â Cherddorfa lawn WNO – am gyflwyniad perffaith i’r byd opera.