

Jason and the Argonauts Gregory Spears + Kathryn Walat
–Trosolwg
Paratowch i ddechrau ar antur yn llawn hud a cherddoriaeth gyda Jason a’i fand diofn o Argonauts, yn y fersiwn wefreiddiol hon sy’n ail-ddweud un o’r clasuron Groegaidd. Mae Jason wedi ei fagu yng nghanol byd natur a cherddoriaeth mewn coedwig hudolus, ac mae’n dyheu i fod yn arwr. Pan ddaw i ddeall bod ei Ewythr Pelias wedi dwyn ei le fel Brenin, mae’n rhuthro i adennill yr orsedd. Ond mae gan y Brenin Pelias un amod: Mae’n rhaid i Jason ddod â’r Cnu Aur iddo. Mae ei dîm o Argonauts yn ymuno ag ef ac maent yn hwylio i Colchis, sef cartref y cnu cyfriniol ond mae dreigiau peryglus a seirenau dirgel yn dod i’w rhan. Gyda’i gilydd, mae’n rhaid iddynt fod yn ddewr a chlyfar a dysgu am wir rym cerddoriaeth. Pan ddaw her enfawr i’w ran, a fydd Jason yn gwneud y dewis cywir?
Mae’r cynhyrchiad anturus hwn yn gyflwyniad hyfryd i’r byd opera i blant, gan ddod â synau’r gerddorfa a phŵer y llais dynol yn fyw. Mae’n llawn antur, hud, a cherddoriaeth, ac yn brofiad bythgofiadwy i gynulleidfaoedd ifanc.
Pricing
O dan 16 mlwydd oed
£10 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
Defnyddiol i wybod
Mae'r perfformiad yn para tua 45 munud heb egwyl.
Caiff ei ganu yn Saesneg.
Caiff ei argymell ar gyfer plant 7-12 oed.
