

Jenůfa Janáček
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
Drama deuluol ddwys heb ei thebyg.
Gyda chalon drom, mae'n ddrwg gennym gyhoeddi bod taith Hydref 2020 Opera Cenedlaethol Cymru wedi'i chanslo o ganlyniad i'r pandemig Covid-19.
Daeth i'r amlwg yn ystod yr wythnosau diwethaf y bydd yn amhosib paratoi, ymarfer a llwyfannu unrhyw gynhyrchiad ar raddfa fawr dros yr haf er mwyn gallu agor yng Nghaerdydd ar 12 Medi. Rydym hefyd yn gwybod, trwy siarad â'n partneriaid yn y lleoliadau, ei bod yn fwyfwy annhebygol y byddant yn agored er mwyn caniatáu unrhyw gynyrchiadau ar raddfa fawr yn ystod yr hydref.
Mae'r cyhoeddiad hwn yn effeithio ar ein cynyrchiadau arfaethedig o The Barber of Seville a Jenufa, gyda'r holl berfformiadau wedi'u canslo yn y lleoliadau canlynol: Caerdydd, Plymouth, Bristol, Birmingham, Llandudno a Southampton. Rydym bellach yn gwneud cynlluniau ar gyfer cyflwyno'r ddau gynhyrchiad yn ystod dymhorau Opera Cenedlaethol Cymru dros y flynyddoedd nesaf, felly rydyn ni'n gobeithio y bydd cynulleidfaoedd yn cael cyfle i'w gweld cyn hir.
Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw un o'r cynyrchiadau hyn, byddwch yn clywed yn uniongyrchol gan y lleoliad pan fyddant yn gallu cysylltu. Mae'r holl leoliadau hyn yn ymdrin â rhes o deithiau wedi'u canslo a hwyrach y bydd cryn amser cyn i chi glywed ganddynt. Peidiwch â chysylltu â'r lleoliadau'n uniongyrchol wrth iddynt weithio trwy hyn.
Roeddem eisoes wedi gwneud y penderfyniad i ohirio noson agoriadol opera newydd Will Todd, Migrations, am 12 mis - bydd yr opera bellach yn rhan o'n cynlluniau ar gyfer Tymor yr Hydref 2021.
Mae gan Jenůfa gyfrinach. Wedi ymgartrefi mewn cymuned fach, ble mae pawb yn gwybod eich busnes, mae Jenůfa ar fin codi cywilydd arni hi ei hun a'i theulu drwy gael plentyn y tu allan i briodas. Mae hi’n gobeithio priodi'r tad, Števa, dyn meddw sy'n hoff o fercheta, cyn i'r gyfrinach gael ei datguddio, ond mae gan ei llysfam fusneslyd, Kostelnička, gynlluniau eraill mewn golwg. Mewn cais i ddiogelu Jenůfa rhag cywilydd, mae hi'n rhoi moddion cysgu iddi ac yn mynd â’r babi. Gan gredu fod y babi wedi marw mae Laca yn cynnig achub enw da Jenůfa trwy ei phriodi, ond ar ddiwrnod eu priodas mae'r gwirionedd tywyll am yr hyn a ddigwyddodd yn cael ei ddatguddio.
Yn stori dorcalonnus am obaith, cariad ac anobaith, mae Jenůfa wedi swyno cynulleidfaoedd am ganrif gyfan. Tomáš Hanus, Cyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO, sy'n arwain cynhyrchiad llwyddiannus Katie Mitchell, a ddisgrifiwyd fel 'y mwyaf pwerus eto' pan aeth y cynhyrchiad ar daith ddiwethaf.
#WNOjenufa
Cefnogir gan Bartneriaid WNO a Cylch Janáček WNO
Defnyddiol i wybod
Tua dwy awr 25 munud gydag un egwyl
Cenir mewn Tsieceg gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg