The Nightingale | Bluebeard's Castle Stravinsky | Bartók
Mae'r digwyddiad yma wedi gorffenTrosolwg
WNO yn cyflwyno bil dwbl cyferbyniol: y stori tylwyth teg hudolus, The Nightingale a stori dywyll ac arswydus Bluebeard's's Castle
Yn dilyn cyngor y Llywodraeth a'r angen i theatrau fod ar gau ledled y DU, mae'n ddrwg gennym eich hysbysu na fydd perfformiadau Opera Cenedlaethol Cymru yn ystod Haf 2020 yn digwydd.
Mae hyn yn cynnwys y perfformiadau canlynol:
- Mae The Barber of Seville yng Nghanolfan Mileniwm Cymru wedi'i gohirio, ond bydd yn dychwelyd am dri pherfformiad ym mis Medi a mis Hydref 2020
- Mae sioe ddwbl The Nightingale a Bluebeard's Castle wedi'i chanslo yn y Ganolfan, yn yr un modd â pherfformiad prynhawn y dydd Sul hwnnw o The Nightingale
- Mae'r Diwrnod Darganfod Opera am ddim hefyd wedi'i ganslo ar y dydd Sul.
- Mae'r ddau berfformiad o'r bil dwbl The Nightingale a Bluebeard's Castle wedi'u canslo yn y Royal Opera House, Llundain.
Rydym yn deall y bydd hyn yn siom enfawr, ond mae digwyddiadau cyfredol wedi golygu ei bod yn amhosib i WNO baratoi, ymarfer a llwyfannu'r cynyrchiadau hyn i agor y Tymor ym mis Mehefin.
Os ydych wedi archebu tocynnau ar gyfer unrhyw rai o'r perfformiadau sydd wedi'u heffeithio, bydd tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid y theatr yn cysylltu â chi drwy ebost i egluro'r opsiynau ar gael i chi. Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cysylltu â chi drwy ebost, yn ystod wythnos 20 Ebrill 2020, i egluro'r opsiynau ar gael i chi, ac rydym yn cydweithio â'r Royal Opera House i gysylltu â chwsmeriaid cyn gynted ag sy'n bosibl. Byddwch yn ymwybodol eu bod, ar hyn o bryd, yn ceisio rhoi trefn ar nifer fawr o berfformiadau wedi'u canslo a'u haildrefnu mewn trefn gronolegol, gan fod y sefyllfa gyda Covid-19 wedi effeithio ar eu rhaglen wanwyn gyfan. Byddem, felly, yn gwerthfawrogi pe baech yn peidio â chysylltu â nhw'n uniongyrchol yn y cyfamser, er mwyn eu helpu i brosesu holl ad-daliadau a chyfnewidiadau cwsmeriaid mor effeithlon ag sy'n bosibl yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Opera Cenedlaethol Cymru yn cyflwyno bil dwbl cyferbyniol: y stori tylwyth teg hudolus, The Nightingale a stori dywyll ac arswydus Bluebeard's's Castle, a fydd yn cael eu arwain gan Gyfarwyddwr Cerddoriaeth WNO Tomáš Hanus.
Yn seiliedig ar stori tylwyth teg Hans Christian Andersen, bydd wyth o gantorion, 11 pypedwr a chast o bypedau gwych maint go iawn yn dod â The Nightingale yn fyw. Mae sgôr ysgubol Stravinsky yn ategu'r naratif ac yn arddangos gwir rym cerddoriaeth.
Dilynir hyn gan Bluebeard’s Castle, opera dywyll Bartók sy'n gweld Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i'r Cwmni fel Y Dug Bluebeard ochr yn ochr â Michelle DeYoung fel Judith. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn cynnwys set gyda thafluniadau fideo a fydd yn eich tywys i fyd dystopaidd Bluebeard's Castle lle mae llofruddiaeth a phriodas yn mynd law yn llaw.
Defnyddiol i wybod
Bydd yr opera yn para tua dwy awr a 45 munud gydag un egwyl
The Nightingale
Cenir yn Eidaleg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
Bluebeard’s Castle Cenir yn Hwngareg, gydag uwchdeitlau Cymraeg a Saesneg
O dan 16 mlwydd oed
£5 pan fyddant gydag oedolyn â thocyn pris llawn (yn ddibynnol ar argaeledd)
16-29 mlwydd oed
£10 (yn amodol ar argaeledd). Ni fydd ar gael ar docynnau o’r ddau bris uchaf na’r pris isaf