Future Aleppo
Archived: 2018/2019Trosolwg
Ffilm sy'n rhoi'r cyfle i ddefnyddwyr ymchwilio i ailgread y bachgen o'i ddinas mewn papur, mewn ymgais i ail-greu ysbryd ei gartref.
Hanes bachgen ifanc sy'n awyddus i gadw'r hyn y mae'n ei garu. Mae Mohammed Kteish, sy'n breuddwydio am fod yn bensaer rhyw ddydd, yn ailadeiladu model o'i ddinas, Aleppo. Er mwyn ei ddiogelwch ei hun, bu'n rhaid i Kteish ffoi o'i gartref gan adael y model o'i ddinas ar ôl. Mae'r ffilm yn gyfle i ddefnyddwyr ymchwilio i ailgread y bachgen o'i ddinas mewn papur, mewn ymgais i ail-greu ysbryd ei gartref.
Beth yw Arddangosfa Trochol Rhyddid?
Mae'r arddangosfa hon, sydd wedi'i churadu'n arbennig, yn cynnwys casgliad o rith-wirionedd (VR) a gwaith realiti estynedig (AR) sy'n edrych ar rai o'r themâu gwleidyddol a archwiliwyd o fewn ein tymor opera Rhyddid.
Ydy’r profiad yn addas i blant?
Mae gwneuthurwyr VR ac AR wedi gosod cyfyngiad oedran o 13 ac uwch. Felly yn anffodus ni fydd plant o dan 13 oed yn gallu cymryd rhan yn elfen VR/AR yr arddangosfa. Mae angen goruchwyliaeth oedolyn ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed bob amser.
Mae gen i gwestiynau am hygyrchedd
Mae'r lleoliad a'r gosodiadau yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Cofiwch gynnwys unrhyw ofynion penodol fel rhan o'ch archeb ar-lein.
Dwi'n dioddef o salwch teithio alla i gymryd rhan?
Os ydych yn dioddef o salwch teithio nid ydym yn argymell eich bod yn cymryd rhan. Fodd bynnag, gallwch stopio’r profiad ar unrhyw adeg os ydych yn teimlo'n sâl neu'n bendro.
Alla i gymryd rhan os ydw i’n feichiog?
Gan fod y profiad hwn yn cynnwys elfennau o symud a mudiant, mae'n bosibl y bydd hyn yn arwain at gyfnodau penysgafn, ac felly ni argymhellir cymryd rhan.
Mae gen i reolydd calon, ydy hi’n ddiogel i mi gymryd rhan?
Nid ydym yn argymell cymryd rhan oherwydd gall elfennau o dechnoleg VR ymyrryd â rheolyddion y galon.
Ydw i’n gallu defnyddio’r offer pen os oes gen i gyflwr croen?
Yn anffodus ni allwch ddefnyddio'r offer pen os oes gennych gyflwr croen heintus. Mae rhai o’r offer pen yn cynnwys latecs rwber naturiol a all achosi adweithiau alergaidd i bobl sy'n sensitif i latecs.
Ydw i’n gallu cymryd lluniau?
Ydych, croeso i chi gymryd lluniau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tagio ni ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #WNOFreedom
Ydw i’n gallu gwisgo sbectol yn ystod y profiad?
Ydych, mae’r offer pen i gyd yn addasadwy ac wedi'u hadeiladu gyda digon o le rhwng y lensys a'r wyneb i chi gael profiad o'r cynnwys heb anghysur.
Ydw i’n gallu cael tocyn ar y diwrnod?
Rydym yn argymell bwcio tocyn am ddim ar-lein i osgoi siom. Fodd bynnag, bydd tocynnau ar gael ar y diwrnod yn amodol ar argaeledd.
Pryd ddylwn i gyrraedd?
Ceisiwch gyrraedd 5 munud cyn eich sesiwn. Yn anffodus, nid ydym yn medru sicrhau mynediad os ydych yn cyrraedd yn hwyr am eich sesiwn.
Defnyddiol i wybod
13+ cyfyngiad oedran
Crewyr y Prosiect: Mohammed Kteish, Alex Pearson ac Andy Overton
Mae Tymor RHYDDID WNO wedi’i noddi â balchder gan Associated British Ports (De Cymru) – 32 o flynyddoedd o gefnogi WNO a’r cymunedau a rannwn.