Gwasanaethau technegol

Mae gan adran dechnegol Opera Cenedlaethol Cymru amrywiaeth eang o gyfrifoldebau ar draws y sefydliad.

Y prif rôl yw paratoi, gosod a chynnal cynyrchiadau newydd a chynyrchiadau sydd wedi’u hadfywio ar gyfer tymhorau’r Cwmni - gan drosi cysyniadau a chynlluniau i’r llwyfan. Yn y broses hon mae’r adran hefyd yn recriwtio, amserlennu a gweinyddu mwy na 70 aelod o staff, gan gynnwys criw llwyfan, trydanwyr, artistiaid wig a cholur, rheolwyr llwyfan, staff swyddfa, rheolwyr cynhyrchu, cynllunwyr gwisgoedd a phropiau, a gyrwyr. Mae’r Swyddfa Dechnegol hefyd yn goruchwylio gwaith Gwasanaethau Theatrig Caerdydd, adran adeiladu golygfeydd WNO sydd yn enwog yn rhyngwladol.

Mae’r swyddfa dechnegol yn chwarae rôl fawr o ran sefydlu logisteg gwaith teithio’r Cwmni, ac mae’n gyfrifol am gludiant, gan gynnwys ein fflyd o lorïau a threlars, a throsglwyddo cynyrchiadau ar gyfer teithiau tramor. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am weinyddu, prydlesu a chynnal a chadw eiddo WNO.