Ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg

Mae Safonau Iaith Gymraeg wedi cael eu cyflwyno er mwyn sicrhau y gall unigolion dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg wrth gysylltu gyda chyrff penodol yng Nghymru. 

Yn Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) rydym wedi ymrwymo i gyflawni’r safonau hyn. Mae ein treftadaeth Gymreig a’r iaith Gymraeg yn bwysig i ni fel sefydliad – dyma sy’n ein gwneud ni yn unigryw. 

Byddwn yn sicrhau na fydd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na Saesneg pan fyddwn yn:

  • Ysgrifennu llythyrau a negeseuon e-bost 
  • Derbyn galwadau ffôn  
  • Trefnu cyfarfodydd a digwyddiadau 
  • Hyrwyddo ein gwaith ar lein neu mewn print 
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol  
  • Cyhoeddi dogfennau cyhoeddus
  • Darparu gwasanaeth derbynfa yn ystod ein perfformiadau 

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg… 

Ar y ffôn: 029 2063 5000

Trwy lythyr: Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Caerdydd CF10 5AL

E-bostio: Unrhyw aelod o’n staff

Os nad ydych yn fodlon gyda’n darpariaeth gwasanaethau cyfrwng Gymraeg gallwch roi adborth i ni drwy e-bostio cymraeg@wno.org.uk.

Byddwn yn hyrwyddo ein gwasanaethau Cymraeg a chyfleodd i ddefnyddio’r Gymraeg gyda ni.