Polisi Cwcis a Phreifatrwydd
Datganiad Preifatrwydd
Datganiad Preifatrwydd
Mae Opera Cenedlaethol Cymru ('ni' neu 'ein') wedi ymrwymo i amddiffyn eich preifatrwydd. Mae'r polisi hwn yn darparu gwybodaeth fanwl am pryd a sut rydym yn casglu'ch gwybodaeth bersonol, a sut rydym yn ei chadw'n ddiogel. Byddwn yn defnyddio'r holl wybodaeth a gasglwn amdanoch yn unol â'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol, 2016 (GDPR) a'r Rheoliadau Preifatrwydd a Chyfathrebu Electronig, 2003 (PECR).
Elusen sydd wedi'i chofrestru yng Nghymru a Lloegr yw Opera Cenedlaethol Cymru (Rhif 221538). Ei hymddiriedolwr yw Welsh National Opera Ltd, cwmni cyfyngedig drwy warant sydd wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif 454297).
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y polisi hwn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy:
Cyfeiriad
Opera Cenedlaethol Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru
Plas Bute
Caerdydd
CF10 5AL
Ebost
cyswllt@wno.org.uk
Ffôn
02920 635000
Gwefan
https://www.wno.org.uk
Swyddog Diogelu Data
Christopher Parsons - christopher.parsons@wno.org.uk
Consortiwm Tessitura Canolfan Mileniwm Cymru
Pan fyddwch yn prynu tocynnau gennym neu'n ymuno ag un o'n cynlluniau aelodaeth, caiff y wybodaeth a ddarperir gennych ei storio mewn cronfa ddata a reolir gan gonsortiwm o leoliadau, dan arweiniad Canolfan Mileniwm Cymru.
Yn 2007, crëwyd Consortiwm gan Ganolfan Mileniwm Cymru sy’n ei gwneud hi’n bosibl i sefydliadau celf eraill elwa o’r un system docynnau a ddefnyddir ganddynt, sef Tessitura, ar lefel is o fuddsoddiad na fyddai ei angen fel arall. Maent yn cynnig dull colegol o ran defnyddio Tessitura â phartneriaid y consortiwm, gan rannu system er budd pawb yn hytrach na pherthynas gorfforaethol a mwy traddodiadol.
Aelodau presennol y consortiwm yw:
- Opera Cenedlaethol Cymru
- Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru
Tra bod pob data ‘penodol i’r sefydliad’ yn cael ei gysylltu’n neilltuol i’r sefydliad priodol (h.y. gwybodaeth ar drafodion, data taliadau, trafodion cwsmeriaid, hanes tocynnau ac ati), mae tab cyffredinol ar gofnod y cwsmer a rennir ymysg partneriaid y Consortiwm. Golyga hyn y gall pob aelod o’r Consortiwm weld y manylion canlynol: Enw, Cyfeiriad, Rhif Ffôn, Cyfeiriad E-bost.
Fodd bynnag, ni chaniateir iddynt dan unrhyw amgylchiadau i ddefnyddio’r wybodaeth hon oni bai eich bod wedi cael caniatâd penodol ganddynt i wneud hynny.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein system CRM, Tessitura neu’r Consortiwm, cysylltwch â ni.
Y wybodaeth bersonol rydym yn ei chasglu
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol fel y'i diffinnir gan GDPR. Efallai y bydd hyn yn cynnwys eich:
- Enw
- Cyfeiriad
- Dyddiad geni
- Ebost
- Ffôn
- Manylion eich cerdyn talu (nodwch, ni fyddwn yn dal gwybodaeth am gyfnod hirach nag y bydd yn ei gymryd i brosesu'ch trafodiad).
- Lleoliad teithiau a ffafrir
- Lleoliad y gangen yr hoffech chi fod yn aelod ohoni
- Unrhyw ohebiaeth drwy'r post, dros y ffôn neu e-bost gydag Opera Cenedlaethol Cymru
Rydym yn casglu gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn:
- Yn prynu tocyn drwy wefan Aelod o Gonsortiwm WMC ar gyfer cynhyrchiad WNO
- Cofrestru ar https://www.wno.org.uk/
- Ymuno â rhestr e-bostio WNO
- Rhoi rhodd neu'n prynu aelodaeth
- Cysylltu â WNO yn uniongyrchol dros y ffôn, trwy'r post, yr e-bost, neu yn bersonol
- Mynychu neu pan gewch eich gwahodd i ddod i un o ddigwyddiadau codi arian neu feithrin diddordeb y WNO
- Prynu nwyddau WNO
Cwcis
Er mwyn gwneud ein gwefan yn haws ei defnyddio a gwella ein gwasanaeth, rydym weithiau'n gosod meintiau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur. Gelwir y rhain yn 'gwcis' ac fe'u defnyddir gan y rhan fwyaf o wefannau mawr.
Defnyddir cwcis er mwyn:
- Cofio gosodiadau felly nad oes dim rhaid i chi eu newid eto bob tro y byddwch chi'n llwytho tudalen.
- Cydnabod eich bod wedi mewngofnodi i ran o'r wefan felly nid oes rhaid i chi roi'ch enw defnyddiwr a chyfrinair droeon.
- Mesur sut rydych yn defnyddio'r wefan fel y gallwn barhau i'w gwella.
Rhagor o wybodaeth yn www.wno.org.uk/cwcis
Trydydd Partïon
Mae'n bosibl y byddwch yn derbyn data oddi wrth drydydd partïon. Gallai hyn gynnwys oddi wrth leoliadau artistig eraill lle rydych wedi gweld gwaith Opera Cenedlaethol Cymru, neu oddi wrth bartneriaid eraill rydym yn gweithio â nhw lle'r ydych wedi rhoi caniatâd i rannu eich gwybodaeth gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae'n bosibl hefyd y byddwn yn defnyddio gwasanaethau allanol fel chwiliwr cyfeiriad PCA Predict ac Experian ar gyfer glanhau data er mwyn sicrhau ein bod yn cadw gwybodaeth am gysylltiadau ar ein cronfa ddata yn gyfredol.
Cyfryngau Cymdeithasol
Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i ymateb i unrhyw gysylltiadau a wneir yn uniongyrchol ag Opera Cenedlaethol Cymru. Mae hefyd yn bosibl y byddwn yn cael gwybodaeth gan wasanaethau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook os bydd eich gosodiadau yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny.
Codi arian
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn dibynnu ar gymorth elusennol er mwyn sicrhau a chynnal ei rhaglen artistig feiddgar o safon uchel. Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu darparu gwasanaeth pwrpasol a phersonol, i nifer fach o'n cynulleidfaoedd a'n rhoddwyr, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol er mwyn sicrhau nad ydym ond yn cysylltu â'r rhai sy'n barod ac yn alluog i gyfrannu at brosiect neu ymgyrch benodol.
Gallwn ddefnyddio cwmnïau proffilio/sgrinio allanol er mwyn sicrhau bod ein cyfathrebiadau’n berthnasol i chi a’ch diddordebau, ac er mwyn asesu eich diddordeb mewn gwneud rhoddion i Opera Cenedlaethol Cymru, a’ch gallu tebygol i wneud hynny. Yn ogystal â wybodaeth sydd ar gael yn gyhoeddus o ffynonellau megis - ond heb fod yn gyfyngedig i - Tŷ'r Cwmnïau, Linked In, Twitter, Facebook, gwefannau cwmnïau, cyfryngau newyddion, Rightmove a Zoopla, yn ddibynnol ar sut ydych yn rhyngweithio gyda ni a/neu eich gosodiadau preifatrwydd.
Gall Opera Cenedlaethol Cymru ddal data personol sydd wedi’i greu gennym ni drwy ddefnyddio data personol arall rydym eisoes yn ei ddal amdanoch chi, un ai o broffilio/ymchwilio mewnol neu allanol. Gellir ymgymryd â hyn drwy brosesau awtomatig neu â llaw, ac mae’n ein galluogi i’ch deall chi’n well fel cefnogwr a gwneud gofynion priodol am gymorth. Mae rhestr o’r adnoddau gwybodaeth cyhoeddus a ddefnyddir gan Opera Cenedlaethol Cymru at y dibenion a fanylwyd ar gael ar gais.
Os nad ydych yn fodlon i Opera Cenedlaethol Cymru ymgymryd â’r gweithgaredd hwn, anfonwch e-bost at development@wno.org.uk
Mae'n bosibl y byddwn yn cael gwybodaeth hefyd am roddwyr posibl drwy ein hymddiriedolwyr a rhanddeiliaid allweddol at ddibenion digwyddiadau codi arian a gweithgareddau eraill. Pe bai hyn yn digwydd, byddwn yn ceisio anfon copi o'r datganiad preifatrwydd hwn ar y pwynt cyswllt cyntaf, neu o fewn mis fan bellaf ar ôl cael y wybodaeth.
Sut rydym yn prosesu gwybodaeth bersonol
Mae'r prosesau canlynol yn cael eu cyflawni er mwyn darparu gwasanaeth, cynnal contract gyda chi neu i gynnal busnes Opera Cenedlaethol Cymru:
- Bodloni ceisiadau am docynnau, rhoddion ac aelodaeth
- Prosesu Taliadau
- Darparu gwasanaethau cwsmeriaid a chynorthwyo gweinyddiaeth fewnol
- Cysylltu â chi gyda gwybodaeth bwysig ynghylch eich archeb neu'ch pryniant
- Gweinyddu ein gwefan
- Pan fyddwch wedi gofyn i WNO am wybodaeth benodol
Cyflawnir y prosesau canlynol pan fydd gennym ddiddordeb dilys neu rwymedigaeth gyfreithiol:
- Cysylltu â chynulleidfaoedd ynghylch eu profiad o unrhyw ymweliadau diweddar i waith gan Opera Cenedlaethol Cymru.
- Defnyddio data i ddadansoddi a dysgu rhagor am ein cynulleidfa a rhoddwyr er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i ddeall ein cwsmeriaid yn well a gwella ein gwasanaethau.
- Defnyddio gwybodaeth a gasglwyd oddi wrth ffynonellau sydd ar gael yn gyhoeddus i ddysgu rhagor am ddiddordebau ein cwsmeriaid a rhoddwyr a'r pethau y maent yn eu hoffi fel y byddwn dim ond yn cysylltu â'r bobl gywir, gyda gwybodaeth berthnasol yn ymwneud â digwyddiadau codi arian, ymgyrchoedd a gweithgareddau eraill.
- Er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein data yn gyfredol ac yn gywir.
- Er mwyn cysylltu â rhoddwyr cyfredol gyda gwybodaeth am yr hyn sydd ymlaen, am gynigion, am newyddion, am ddigwyddiadau neu am unrhyw weithgareddau neu ymgyrchoedd codi arian yn y dyfodol.
Cyflawnir y prosesau pan fydd gennym eich caniatâd
- Er mwyn cysylltu â chi gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau, am newyddion, am gynigion arbennig neu am ein cefnogi.
- Pan fyddwch wedi rhoi caniatâd penodol i'w wneud mae'n bosibl y byddwn yn rhannu eich data gyda chyrff tebyg.
Trydydd Partïon
Mae'n bosibl y byddwn yn darparu eich gwybodaeth bersonol i ddarparwyr cyfryngau cymdeithasol neu i hysbysebwyr trydydd parti er mwyn dangos hysbysebion perthnasol i chi a hefyd i'n helpu i nodi cwsmeriaid posibl.
Mae'n bosibl y byddwn yn rhannu'ch manylion gyda'n cyflenwyr, er enghraifft, cwmnïau postio, i'w galluogi i gyflawni gwasanaethau ar ein rhan.
Nid yw Opera Cenedlaethol Cymru yn gyfrifol am hysbysiadau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill hyd yn oed os cânt eu cyrchu gan ddefnyddio dolenni o www.wno.org.uk ac mae'n argymell eich bod yn gwirio polisi pob gwefan y byddwch yn ymweld â hi ac yn cysylltu â'i pherchennog neu reolwr diogelu data os oes gennych unrhyw bryderon neu ymholiadau.
Er gwaethaf ein holl ragofalon, nid oes unrhyw drosglwyddiad data dros y rhyngrwyd yn 100% diogel. Felly, ni allwn warantu diogelwch unrhyw wybodaeth rydych yn ei datgelu i ni ac felly hoffem dynnu'ch sylw at y ffaith eich bod yn gwneud hynny ar eich risg eich hun.
Sut rydym yn diogelu'ch gwybodaeth bersonol
Fel rhan o'r gwasanaethau a gynigir i chi drwy wefan Opera Cenedlaethol Cymru, gall y wybodaeth bersonol a ddarperir gennych gael ei throsglwyddo i wledydd y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Er enghraifft, gall hyn ddigwydd os yw unrhyw un o'r gweinyddion cyfrifiadur a ddefnyddir i gynnal ein gwefan wedi'i leoli mewn gwlad y tu allan i'r AEE. Os bydd Opera Cenedlaethol Cymru yn trosglwyddo'ch gwybodaeth bersonol y tu allan i'r AEE yn y modd hwn, byddwn yn cymryd camau i sicrhau bod eich hawliau preifatrwydd yn parhau i gael eu diogelu fel yr amlinellir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn.
Gall Opera Cenedlaethol Cymru drosglwyddo'ch data i'r UDA, i sefydliadau fel Facebook, Google neu Wordfly. Mae gan UDA ddeddfau diogelu data gwannach na rhai'r AEE ac felly byddwn yn sicrhau mai dim ond sefydliadau sy'n rhan o fenter ddiogelu preifatrwydd yr UE fydd yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Ceir rhagor o fanylion am yr ardystiad hwn yn www.privacyshield.gov/welcome
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth dim ond am gyhyd ag sy'n rhesymol angenrheidiol at y dibenion a nodir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn ac i gyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol. Ni fyddwn yn cadw mwy o wybodaeth na'r hyn sydd ei hangen arnom. Bydd y cyfnod cadw yn amrywio yn ôl y diben, er enghraifft, ar gyfer prynu tocyn byddwn yn rhoi'r gorau i'r farchnata i unigolion nad ydynt wedi cael unrhyw ryngweithio pellach gyda WNO ar ôl cyfnod o saith mlynedd. Byddwn yn parhau i ddefnyddio'r data hwn i'w ddadansoddi am wyth mlynedd arall, ond byddwn yn cael gwared arni ar yr adeg honno. Fodd bynnag, er enghraifft, pan fydd rhywun sy’n addo rhodd i WNO, byddwn yn cadw’r wybodaeth hon cyn hired ag sydd ei angen er mwyn prosesu’r gymynrodd, ac ar gyfer unrhyw ofynion craffu a chyfreithiol i’r dyfodol.
Sut y gallwch chi reoli'ch gwybodaeth bersonol
Gallwch ddiweddaru'ch gwybodaeth bersonol a'ch dewisiadau o ran cyfathrebu unrhyw bryd drwy fewngofnodi i www.wno.org.uk neu drwy ffonio, ysgrifennu neu e-bostio WNO yn uniongyrchol.
Bydd pob e-bost a anfonwn yn cynnwys manylion ar sut i newid eich dewisiadau o ran cyfathrebu neu ddileu tanysgrifiad i ohebiaeth yn y dyfodol.
Pe hoffech weld, diweddaru neu ddileu unrhyw wybodaeth bersonol a gadwn, gallwch wneud hynny drwy fewngofnodi i www.wno.org.uk neu gysylltu â ni'n uniongyrchol dros y ffôn, trwy’r post neu'r e-bost. Dylech anfon disgrifiad clir o'r wybodaeth sydd ei hangen, ac a ydych am ei gweld, ei diweddaru neu ei dileu.
Mae GDPR yn rhoi’r hawl i chi gael mynediad at y wybodaeth sydd gennym amdanoch (‘cais gwrthrych gwybodaeth’). I gael yr hawl, neu os hoffech chi weithredu’ch ‘hawl i gael eich anghofio’, cysylltwch â ni yn dataprotectionofficer@wno.org.uk neu drwy’r post i Swyddog Diogelu Data, Opera Cenedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru, Plas Bute, Bae Caerdydd CF10 5AL, neu dros y ffôn ar 02920 635053 a byddwn yn eich ateb cyn pen mis ers derbyn eich cais.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni'n uniongyrchol drwy cyswllt@wno.org.uk. Mae gennych yr hawl hefyd i gyflwyno cwyn i'r awdurdod goruchwylio, Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth - www.ico.org.uk
Diweddariadau i'ch datganiad preifatrwydd
Diweddarwyd yr hysbysiad ar 21 Ebrill 2023. Mae'n bosibl y caiff ei ddiweddaru i gymryd i ystyriaeth newidiadau yn Opera Cenedlaethol Cymru er enghraifft er mwyn adlewyrchu newidiadau i reoliad neu ddeddfwriaeth.
Polisi Cwci
Polisi Cwci
Mae'r wefan hon yn defnyddio rhywbeth o'r enw cwcis. Ffeil testun fach yn cynnwys llythyrau a rhifau sy'n cael ei gosod ar eich cyfrifiadur pan fyddwch chi'n ymweld â gwefan yw cwci. Mae cwcis yn caniatáu i'r safle eich gwahaniaethu chi oddi wrth ddefnyddwyr eraill y wefan.
Nid rhaglen gyfrifiadur yw cwci, ni all cwcis ddarllen ffeiliau ar eich cyfrifiadur, ni allant gario firysau ac ni allant osod maleiswedd ar eich cyfrifiadur.
Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis trwy osodiadau’r porwr. I ddarganfod mwy am gwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi'u gosod ar eich dyfais a sut i'w rheoli a'u dileu nhw, ewch i www.aboutcookies.org neu www.allaboutcookies.org
Os nad ydych eisiau cael eich tracio gan Google Analytics ar gyfer pob gwefan, ewch i http://tools.google.com/dlpage/gaoptout
Cwcis y gallwch ddod ar eu traws ar wefan Opera Cenedlaethol Cymru:
Craft
Mae’r system rheoli cynnwys (Craft) sy’n cael ei defnyddio i yrru’r wefan hon, yn defnyddio cwcis i'ch helpu chi i lywio, ac i gofio eich dewisiadau a'r tudalennau yr ydych wedi ymweld â nhw yn barod.
Tessitura
Mae’r cwci Tessitura yn cael ei ddefnyddio gan ein llwyfan archebu i’ch galluogi i brynu ar-lein. Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i chi fewngofnodi, ac ychwanegu eitemau lluosog at gart siopa cyn prynu tocynnau neu nwyddau a rhoi rhoddion.
Google Analytics
Yn cael ei ddefnyddio gan Google Analytics i’n galluogi i olrhain y tudalennau rydych chi'n ymweld â hwy, a manylion sylfaenol am eich porwyr gwe. Ni allant eich adnabod chi yn bersonol.
Am ragor o wybodaeth am y cwcis hyn neu unrhyw gwcis eraill ar y wefan hon, cysylltwch â info@wno.org.uk
Trwy bori gwefan Opera Cenedlaethol Cymru, rydych chi'n derbyn y cwcis sy’n cael eu nodi uchod ac unrhyw rai eraill sy’n cael eu hystyried yn hanfodol ar gyfer y profiad defnyddiwr gorau. Gallwch reoli cwcis yn eich porwr; fodd bynnag, os byddwch yn gwrthod neu'n dileu cwcis, efallai na fydd rhannau o’r safle'n gweithio'n iawn neu efallai y byddant yn ymddwyn yn annisgwyl.
Cookie | Domain | Description | Duration | Type |
---|---|---|---|---|
CraftSessionId | wno.org.uk | This cookie is used to maintain sessions across web requests via the PHP session cookie. | session | Necessary |
cid_* | .ctnsnet.com | Crimtan sets this cookie as remarketing cookie that is used to send relevant ads to users on subsequent sites. | 1 year | Marketing |
_ga | .wno.org.uk | Google Analytics sets this cookie to calculate visitor, session and campaign data and track site usage for the site's analytics report. The cookie stores information anonymously and assigns a randomly generated number to recognise unique visitors. | 1 year 1 month 4 days | Analytics |
_gid | .wno.org.uk | Google Analytics sets this cookie to store information on how visitors use a website while also creating an analytics report of the website's performance. Some of the collected data includes the number of visitors, their source, and the pages they visit anonymously. | 1 day | Analytics |
_gat_UA-* | .wno.org.uk | Google Analytics sets this cookie for user behaviour tracking. | 1 minute | Analytics |
_ga_* | .wno.org.uk | Google Analytics sets this cookie to store and count page views. | 1 year 1 month 4 days | Analytics |
XANDR_PANID | .adnxs.com | No description | 3 months | Other |
receive-cookie-deprecation | .adnxs.com | No description | 1 year 1 month 4 days | Other |
uuid2 | .adnxs.com | The uuid2 cookie is set by AppNexus and records information that helps differentiate between devices and browsers. This information is used to pick out ads delivered by the platform and assess the ad performance and its attribute payment. | 3 months | Marketing |
anj | .adnxs.com | AppNexus sets the anj cookie that contains data stating whether a cookie ID is synced with partners. | 3 months | Marketing |
test_cookie | .doubleclick.net | doubleclick.net sets this cookie to determine if the user's browser supports cookies. | 15 minutes | Marketing |
ar_debug | .doubleclick.net | No description | 1 month | Other |
cid | .ctnsnet.com | The cid cookie helps to identify unique visitors and understand their site behaviour at different times. | 1 year | Analytics |
_fbp | .wno.org.uk | Facebook sets this cookie to display advertisements when either on Facebook or on a digital platform powered by Facebook advertising after visiting the website. | 3 months | Analytics |
vuex | wno.org.uk | No description available. | never | Other |