Telerau ac Amodau
Telerau defnyddio
Yn y dudalen hon (ynghyd ag yn y dogfennau y mae’r dudalen yn cyfeirio atynt) ceir eglurhad o’r telerau defnyddio y gellwch eu defnyddio i gael at wefan WNO, p’un ai fel gwestai neu ddefnyddiwr cofrestredig. A fyddech cystal â darllen y telerau defnyddio hyn yn ofalus cyn dechrau defnyddio’r safle. Wrth ddefnyddio gwefan WNO rydych yn dangos eich bod yn derbyn y telerau defnyddio hyn. Os nad ydych yn cytuno i’r telerau defnyddio hyn, a fyddech cystal â pheidio â defnyddio gwefan WNO.
Gwybodaeth amdanom ni
WNO (“Ni” a geiriau eraill fel “Ein”) sy’n gweithredu Gwefan WNO. Elusen wedi’i chofrestru yng Nghymru a Lloegr (Rhif 221538) ydym ni.
Cael mynediad at wefan WNO
Mynediad dros dro a geir at ein safle a chadwn yr hawl i dynnu’n ôl y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu ar ein safle neu ei ddiwygio’n ddirybudd (gweler isod). Ni fyddwn yn gyfrifol os na fydd ein safle, am ba bynnag reswm, ar gael ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.
Os dewiswch neu y rhoddir i chi, god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr neu unrhyw ddarn arall o wybodaeth fel rhan o’r trefniadau diogelwch, rhaid i chi gadw hwn yn gyfrinachol ac ni chewch ei ddatgelu i unrhyw un arall. Mae hawl gennym analluogi unrhyw god neu gyfrinair adnabod defnyddiwr, p’un a yw wedi’i ddewis gennych chi neu ei neilltuo gennym ni, a hynny ar unrhyw adeg os ydych, yn ein barn ni, wedi methu cydymffurfio ag unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau defnyddio hyn.
Chi sy’n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau sy’n angenrheidiol i gael mynediad at ein safle. Chi hefyd sy’n gyfrifol bod pawb sy’n cael mynediad at ein safle trwy eich cysylltiad rhyngrwyd chi yn ymwybodol o’r telerau hyn a’u bod yn cydymffurfio â nhw.
Hawliau eiddo deallusol
Ni yw perchennog neu drwyddedai’r holl hawliau eiddo deallusol yn ein safle ac yn y deunydd a gyhoeddir arno, oni nodir fel arall. Caiff y gweithiau hyn eu gwarchod gan ddeddfau hawlfraint a chytundebau ym mhedwar ban byd. Cedwir yr holl gyfryw hawliau.
Dibyniaeth ar wybodaeth a gaiff ei phostio
Nid rhoi cyngor y gellid dibynnu arno yw bwriad y sylwadau a’r deunyddiau eraill a gaiff eu postio ar ein safle. O’r herwydd, rydym yn gwrthod pob atebolrwydd a chyfrifoldeb a gyfyd yn sgil unrhyw ddibyniaeth ar ei gynnwys y bydd gan unrhyw ymwelydd â’n safle neu unrhyw un a allai gael gwybod am ei gynnwys.
Atebolrwydd WNO
Rhoddir y deunydd a ddangosir ar ein safle heb unrhyw warant, amod na sicrhad ei fod yn gywir. I’r eithaf a ganiateir dan y gyfraith, rydym ni, aelodau eraill o’n grŵp o gwmnïau sy’n gysylltiedig â ni, trwy hyn yn gwahardd yn benodol:
- Yr holl amodau, gwarantau neu delerau eraill a allai, fel arall, gael eu hymhlygu gan statud, cyfraith gyffredin neu’r gyfraith ecwiti.
- Unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled neu ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol gan ddefnyddiwr mewn cysylltiad â’n safle neu mewn cysylltiad â defnyddio ein safle, methu â’i ddefnyddio neu â chanlyniadau defnyddio ein safle, unrhyw wefannau lle crëir dolenni iddo ac unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio arno, gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw atebolrwydd dros:
- golli incwm neu refeniw;
- colli busnes;
- colli elw neu gontractau;
- colli cynilion disgwyliedig;
- colli data;
- colli ewyllys da;
- amser rheoli neu swyddfa a wastreffir; ac
- Unrhyw golled neu ddifrod arall o unrhyw fath, sut bynnag y’i cyfyd a pha un ai a ydyw wedi’i achosi trwy gamwedd (yn cynnwys esgeulustod), torri cytundeb neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, ar yr amod na fydd yr amod hwn yn atal hawliadau am golli eich eiddo diriaethol neu am ddifrod iddo neu unrhyw hawliadau eraill am golled ariannol uniongyrchol na chânt eu heithrio gan unrhyw un o’r categorïau uchod.
- Nid yw hyn yn cael effaith ar ein hatebolrwydd dros farwolaeth neu anaf personol a gyfyd yn sgil ein hesgeulustod, nac ar ein hatebolrwydd dros gamliwio twyllodrus neu gamliwio o ran mater sylfaenol nac ar unrhyw atebolrwydd arall nad oes modd ei eithrio neu gyfyngu arno dan gyfraith gymwysadwy.
Gwybodaeth amdanoch chi a’ch ymweliadau â gwefan WNO
Rydym yn prosesu gwybodaeth amdanoch yn unol â’n polisi preifatrwydd. Wrth ddefnyddio ein safle, rydych yn caniatáu’r cyfryw waith prosesu ac yn gwarantu bod yr holl wybodaeth a roddwch i ni’n gywir.
Trafodion y penderfynir arnynt trwy wefan WNO
Llywodraethir contractau ar gyflenwi nwyddau neu wasanaethau a ffurfir trwy ein safle neu yn sgil ymweliadau gennych gan ein telerau ac amodau cyflenwi.
Firysau, Hacio a Throseddau Eraill
Ni chewch gamddefnyddio ein safle trwy’n fwriadol gyflwyno firysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Ni chewch geisio cael mynediad at ein safle, ein gweinydd lle caiff ein safle ei storio nac at unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu ddata-bas sy’n gysylltiedig â’n safle, heb ganiatâd. Ni chewch ymosod ar ein safle trwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth wedi’i ddosbarthu.
Trwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Byddwn yn rhoi gwybod i’r awdurdodau gorfodi’r gyfraith berthnasol am unrhyw drosedd ac yn cydweithredu gyda’r awdurdodau hynny trwy roi eich manylion iddynt. Os bydd y cyfryw ddarpariaeth yn cael ei thorri, bydd eich hawl i gael defnyddio ein safle’n dod i ben yn syth.
Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan ymosodiad neu firws atal gwasanaeth a ddosberthir neu ddeunydd niweidiol technolegol arall a allai gael effaith ar offer eich cyfrifiadur, rhaglenni eich cyfrifiadur, data neu ddeunydd arall o’ch eiddo oherwydd i chi ddefnyddio ein safle neu lwytho i fyny unrhyw ddeunydd a gaiff ei bostio arno neu ar unrhyw wefan lle crëir dolen iddo.
Creu dolen i wefan WNO
Gallech greu dolen i’n wefan, ar yr amod eich bod yn gwneud mewn modd sy’n deg a chyfreithiol ac nad yw’n difrodi ein henw da nac yn cymryd mantais ohono. Fodd bynnag, ni chewch sefydlu dolen yn y fath fodd yr awgrymir unrhyw fath o gysylltiad o’n rhan ni lle nad oes cysylltiad nac ychwaith ganiatâd na chymeradwyaeth.
Os dymunwch wneud unrhyw ddefnydd o’r deunydd sydd ar ein safle ac eithrio’r hyn sydd wedi’i nodi uchod, a fyddech cystal â chyfeirio eich cais i marchnata@wno.org.uk.
Dolenni o wefan WNO
Lle mae ein safle’n cynnwys dolenni i safleoedd ac adnoddau eraill a ddarperir gan drydydd parti, er eich gwybodaeth yn unig y mae’r dolenni hyn. Nid oes gennym reolaeth dros gynnwys y safleoedd na’r adnoddau hynny ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb amdanynt nac am unrhyw golled neu ddifrod a gyfyd wrth i chi eu defnyddio.
Amrywiadau
Gallwn adolygu’r telerau defnyddio hyn ar unrhyw adeg trwy ddiwygio’r dudalen hon. Mae disgwyl i chi gadw golwg ar y dudalen hon o bryd i’w gilydd i wirio unrhyw newidiadau a wnaethom, gan eu bod yn eich rhwymo. At hyn, gallai rhai o’r darpariaethau yn y telerau defnyddio hyn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu rybuddion a gyhoeddir yn rhywle arall ar ein safle.
Eich pryderon
Os oes gennych bryderon ynghylch deunydd sy’n ymddangos ar ein safle, a fyddech cystal â chysylltu â marchnata@wno.org.uk. Diolch i chi am ymweld â’n safle.