Ein hanes
Sefydlwyd Opera Cenedlaethol Cymru yn 1943 gan grŵp o bobl o ledled de Cymru, a oedd yn cynnwys glowyr, athrawon a meddygon. Roeddynt eisiau ffurfio cwmni opera a fyddai’n gweddu i enw da Cymru fel ‘gwlad y gân’. Mae’r egni sy’n gyrru’r Cwmni heddiw wedi’i wreiddio yn ei sefydliad yn y 1940au.
Llinell Amser
Y Dechrau 1943-1945
- Ym mis Tachwedd 1943, ymunodd Idloes Owen, mab glöwr o Ferthyr ac athro canu ac arweinydd enwog o Gaerdydd, â ffrindiau i gynnig sefydlu cwmni opera newydd i Gymru.
- Yng Nghapel y Methodistiaid Cathays ar 2 Rhagfyr 1943, sefydlwyd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, gydag Owen yn cael ei gyhoeddi yn Gyfarwyddwr Cerddoriaeth a chyfraddau tanysgrifio'r cwmni ar gyfer y corws gwirfoddol yn cael eu pennu ar un gini'r flwyddyn, yn ogystal â chwe cheiniog yr ymarfer.
- Cynhaliwyd ymarfer cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol newydd Cymru ar 6 Ionawr 1944. Ymgasglodd oddeutu 60 o bobl o bob cwr o dde Cymru: cantorion amatur; rhai o fyfyrwyr Owen; gweithwyr siop; cigydd; tafarnwr; gweithwyr rheilffordd. Roedd gan bob un ohonynt un peth yn gyffredin - cariad at ganu a lleisiau hyfryd.
- Cynhelir cyngerdd cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o ddarnau opera ym mis Ebrill 1944 yn Theatr Empire, Caerdydd, gyda chyngherddau rheolaidd ar ôl hynny.
- Mae Idloes Owen yn cynllunio i'r cwmni ddysgu chwe opera mewn dwy flynedd gyda'r nod o'u llwyfannu - ond mae'n cymryd hyd at 1946 i ddod o hyd i leoliad addas...
1946-1955
- Ar ôl sicrhau Theatr Tywysog Cymru, Caerdydd, fel lleoliad perfformiadau wedi'u llwyfannu'n llawn cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Gwisgodd yr aelodau eu gwisgoedd eu hunain, a ffurfiwyd cerddorfa o gerddorion lleol. Roedd cantorion yn gwnïo gwisgoedd ac yn paentio setiau hyd at y noson agoriadol.
- Dydd Llun 15 Ebrill 1946: Idloes Owen sy’n arwain y noson agoriadol, sioe ddwbl o Cavalleria rusticana Mascagni a Pagliacci Leoncavallo (Cav & Pag) gyda Tudur Davies fel y prif denor a Margaret Williams fel soprano.
- Dydd Mawrth 16 Ebrill 1946: Mae Ivor John, canwr ac arweinydd o Abertawe, yn arwain Faust - a dwy noson wedyn mae'n perfformio'r brif rôl. Mae Bill Smith, dyn busnes lleol, yn cyflogi Norman Jones a Peggy Moreland i ddod yn weinyddwyr cyntaf y Cwmni.
- Adroddodd y Western Mail: 'Cafodd y cwmni Cymreig newydd hwn ganmoliaeth fawr am ei noson gyntaf ac mae'n addo bod yr un mor bwysig i ganu yng Nghymru â'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn y dyfodol'
- 1946-1949, ar ôl llwyddiant y perfformiadau cyntaf, ceir llu o geisiadau i ymuno â Chorws Gwirfoddol Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru o dde Cymru a thu hwnt.
- Ym mis Mai 1948, mae Bill Smith, Cadeirydd Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru yn penderfynu ei ffurfio'n gwmni cyfyngedig 'ar gyfer hyrwyddo a chyflwyno opera yng Nghymru ac mewn mannau eraill, a chyfrannu at fywyd cerddorol, diwylliannol ac addysgol y gymuned'.
- Ym mis Tachwedd 1949, gwelwyd y perfformiadau cyntaf yn Abertawe gyda changen Abertawe o'r corws gwirfoddol.
- 7 Hydref 1952: Cynhelir y perfformiad cyntaf o Nabucco gan WNO ym Mhafiliwn Gerddi Sophia, Caerdydd - dyma'r cynhyrchiad wedi'i lwyfannu'n llawn cyntaf o'r opera hon yn y DU ers canrif. Roedd yn llwyddiant ysgubol, yn enwedig i'r Corws o 80 aelod a dderbyniodd adolygiadau disglair. Roedd Nabucco yn garreg filltir bwysig i'r Cwmni - yn sefydlu ei hawl i gael ei ystyried ymhlith cwmnïau opera blaenllaw Prydain.
- Yn 1953, mae'r Cwmni yn dechrau teithio - llwythwyd gwisgoedd ac artistiaid ar drên, yn gyntaf i Bournemouth, yna i Fanceinion. WNO oedd y cwmni Prydeinig cyntaf o'r tu allan i Lundain i deithio'r rhanbarthau
- Ar 1 Tachwedd 1954, gwelwyd perfformiad cyntaf WNO yn y Theatr Newydd yng Nghaerdydd. Byddai WNO yn perfformio yma am y 50 mlynedd nesaf.
- Ym mis Gorffennaf 1955, yn ystod tywydd eithriadol o boeth, mae WNO yn perfformio yn Llundain yn Sadler's Wells. Roedd yr wythnos yn llwyddiant ysgubol gyda chynulleidfaoedd ac adolygwyr fel ei gilydd.
1956-1965
- Yn dilyn llwyddiant y perfformiad cyntaf yn Llundain yn 1955, mae'r Cwmni yn dychwelyd i Sadler's Wells gyda Nabucco dan gyfarwyddyd John Moody yn 1957.
1966-1975
- Mae Geraint Evans yn ymuno â chynyrchiadau WNO o Don Pasquale (1966) a Falstaff (1969)
- Ym mis Mawrth 1969, symudodd WNO i'w bencadlys newydd yn John Street, Caerdydd.
- Mae'r Cwmni'n llwyfannu'r cynhyrchiad cyntaf yn y DU o'r opera Lulu gan Berg yn 1971.
- Yn 1971, mae WNO yn sefydlu ei gerddorfa ei hun, Cerddorfa Ffilharmonia Cymru, sy'n cael ei hail-enwi yn Gerddorfa WNO yn 1978.
- Mae Michael Geliot yn llwyfannu Billy Budd Britten, cynhyrchiad eiconig wedi'i ddylunio gan Roger Butlin (1972). Ar daith yn Norwich, anrhydeddodd Benjamin Britten WNO drwy fynychu perfformiad, gan ddatgan ei fod 'yn ysblennydd'.
- Billy Budd oedd sioe gyntaf WNO i fynd ar daith ryngwladol, gyda pherfformiadau yn Lausanne a Zurich yn 1973.
- Ym mis Ionawr 1968, cynhelir ymarferion cyntaf Corws proffesiynol, newydd WNO. Sefydlwyd fel ensemble proffesiynol llawn amser yn 1973. Cafodd aelodau o'r Corws Gwirfoddol glyweliad, a llwyddodd rhai ohonynt, a oedd yn golygu eu bod yn gallu dod yn aelodau o gôr proffesiynol.
- TÂN! Yn 1975, mae tân yn ymledu drwy storfa setiau WNO, gan ddinistrio gwerth 30 mlynedd o gynyrchiadau. Mae'r perfformiadau'n parhau, gyda setiau a gwisgoedd wedi'u benthyg gan gwmnïau operâu eraill yn y DU.
1976-1985
- Erbyn 1976, roedd WNO yn Gwmni llwyr broffesiynol gyda Chorws o 48 aelod, ei Gerddorfa ei hun, a thimau technegol a gweinyddol.
- Mae 'tri gŵr WNO': Richard Armstrong, Nicholas Payne a Brian McMaster yn gosod y Cwmni ar lwyfan y byd drwy ddenu cyfarwyddwyr llwyfan radical o Ewrop. Mae rhai o'r cynyrchiadau nodedig yn cynnwys Peter Grimes, Otello, Rigoletto, Eugene Onegin, cylch o ganeuon Janáček a chylch cyfan y Ring Cycle.
- Yr opera gyntaf yng nghyfres Janáček oedd Jenůfa, ym mis Medi 1975, dan gyfarwyddyd David Pountney. Dyma ei gywaith cyntaf ag WNO, a dechreuodd y Gyfres gysylltiad hirsefydlog rhwng WNO ac operâu Janáček.
- Mae Charles Mackerras yn arwain perfformiad cyntaf y DU o The Greek Passion, yn cynnwys geifr byw, yn 1981.
- Yn 1984 sefydlwyd Gwasanaethau Theatraidd Caerdydd (CTS) o weithdai WNO i adeiladu holl setiau WNO. Dros y 30 mlynedd nesaf, mae CTS yn dod yn un o wneuthurwyr setiau mwyaf blaenllaw'r DU, gan gynhyrchu ar gyfer rhai o gwmnïau bale, theatr ac opera mwyaf y byd.
- Roedd cynhyrchiad WNO o Ring Cycle, Wagner (1983-1985) yn orchwyl sylweddol ac uchelgeisiol i'r Cwmni, ac fe'i perfformiwyd yn y Royal Opera am y tro cyntaf gan gwmni opera yn y DU y tu allan i Lundain.
- Mae'r Cwmni yn mynd ar daith hanesyddol y tu ôl i'r Llen Haearn, gan deithio i Ddwyrain Berlin, Dresden a Leipzig gyda chynyrchiadau o Ernani, The Turn of the Screw ac Elektra.
1986-1995
- Mae'r cyfarwyddwr llwyfan radical o Ewrop, Peter Stein, yn cyfarwyddo cynhyrchiad eiconig o Pelléas et Mélisande wedi'i arwain gan Pierre Boulez, ac yn cynnwys defaid byw.
- Cynhyrchiad 1988 Gören Järvefelt o La traviata. Ysgrifennodd David Cairns yn The Sunday Times: 'Mae'n werth teithio’n bell i glywed La traviata Opera Cenedlaethol Cymru. Ni allaf ddwyn i gof Traviata cystal â hi. Yn nwylo Mackerras a Cherddorfa a Chorws rhagorol WNO, mae'r darn yn disgleirio gyda bywyd a lliw annisgwyl'
- Mae cynhyrchiad WNO o Falstaff yn teithio i Tokyo, Milan ac Efrog Newydd, ac mae'r Cwmni'n ymweld â gŵyl fawreddog Wiesbaden May yn yr Almaen tair gwaith.
- Mae Charles Mackerras yn arwain The Yeomen of the Guard yn 1995; dyma oedd y cynhyrchiad Gilbert a Sullivan cyntaf i gael ei berfformio yn y Royal Opera House.
- Mae'r Ring Cycle yn teithio i leoliadau gan gynnwys perfformiad cyntaf WNO yn y Royal Opera House, Covent Garden yn ystod tymor penblwydd WNO yn 40 yn 1986.
- Mae Bryn Terfel yn ymddangos yn ei gynhyrchiad WNO cyntaf, Così fan tutte yn 1990 ac yna fel Ford yn Falstaff yn 1993 gyda Donald Maxwell.
- Mae Cerddorfa WNO yn perfformio cyngerdd o Gerddoriaeth i Bobl Ifanc yn Neuadd Dewi Sant yn 1992. Un o gyngherddau i'r teulu cyntaf WNO.
- Trefnodd adran addysg WNO un o'i raglenni mwyaf uchelgeisiol yn cysylltu'r gymuned gyda'i operâu raddfa mawr: The Cinderella Project, gan berfformio pedair fersiwn wahanol o'r stori ramantus. Perfformiad raddfa mawr, cyntaf y DU o Cendrillon Massenet gyda Rebecca Evans; La Cenerentola Rossini ac yn Sefydliad Glowyr Coed-duon opera i blant Maxwell Davies Cinderella ac yna sioe gerdd gymunedol newydd The Splott Cinderella.
1996-2005
- Yn 2001, sefydlwyd WNO MAX, tîm ymgysylltu a’r gymuned, i ddatblygu cysylltiadau â'r gymuned ymhellach wrth agor y profiad opera i bawb.
- Perfformiwyd prosiect mawr cyntaf WNO MAX, y cynhyrchiad clodwiw o Katerina, yn cynnwys dros 200 o blant ysgol o Ferthyr Tudful. Aeth ymlaen i gael ei berfformio yng Ngwynedd a Sir Ddinbych gyda 240 o blant ysgol, a 1800 yn y gynulleidfa.
- Yn 2004, mae WNO yn symud o'r New Theatre i leoliad newydd ym Mae Caerdydd. Y perfformiad WNO cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yw La traviata ar ddydd Gwener 18 Chwefror 2005, cafodd ei ddilyn gan Wozzeck gan Berg y noson ganlynol.
- Mae Carlo Rizzi yn dychwelyd i WNO fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth, ac yn arwain repertoire Eidalaidd nodedig yn cynnwys Cav & Pag a Don Carlos.
- Mae Opera Ieuenctid WNO yn esblygu allan o waith WNO MAX, gan ddwyn ynghyd perfformwyr ifanc rhwng 14-25 oed i ddatblygu eu sgiliau. Yn 2005, perfformir darn wedi'i gomisiynu'n arbennig The Taylor's Daughter yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru
2006-2015
- Mae Lothar Koenign yn arwain Die Meistersinger gan Wagner dan gyfarwyddyd Richard Jones mewn cyfres o berfformiadau lle gwerthir pob un o’r tocynnau. Bryn Terfel a Christopher Purves yw’r prif berfformwyr. Dangosir un o’r perfformiadau ar y BBC fel rhan o’r ‘Proms’.
- Ar ôl degawdau o ymhél ag WNO, yn 2011 caiff David Pountney ei wneud yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Brif Weithredwr WNO. Mae ei benodiad yn arwydd o ymrwymiad cynyddol y Cwmni i gomisiynu opera newydd.
- Mae comisiynau a pherfformiadau premiere newydd yn cynnwys Peter Pan a rhaglen ddwbl o Usher House a Fall of the House of Usher.
- Mae WNO yn teithio i Savonlinna ac Oman, ac yn cael llwyddiant mawr.
- Yng Ngwanwyn 2015, mae WNO yn dathlu ei ben-blwydd yn 75 oed gydag opera newydd, sef In Parenthesis, i goffáu’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Ers 2016
- Mae WNO yn dathlu ei benblwydd yn 70 oed gyda chynhyrchiad newydd, In Parenthesis, i goffau'r Rhyfel Byd Cyntaf. Mae hyn ar y cyd â gosodiad digidol o'r enw FIELD a pherfformiad Gala a aeth ymlaen i'r Royal Opera House yn 2016
- Yn 2016, mae Tomáš Hanus, arweinydd blaenllaw o’r Weriniaeth Tsiec, yn ymuno ag WNO fel Cyfarwyddwr Cerddoriaeth a daw Carlo Rizzi yn Arweinydd Llawryfog.
- Rhwng 2018 a 2020, mae WNO yn llwyfannu Trioleg o weithiau Verdi gyda chynyrchiadau newydd o La forza del destino, Un ballo in maschera a Les vêpres siciliennes.
- Yn 2018, mae WNO yn dathlu can mlynedd ers i fenywod Prydain ennill yr hawl i bleidleisio trwy lwyfannu Rhondda Rips It Up! – sef opereta newydd gan y cyfansoddwr Elena Langer, sy’n cynnwys perfformwyr benywaidd yn unig.
- Gan barhau i hyrwyddo operâu na chânt eu perfformio’n aml, mae WNO yn perfformio cynhyrchiad newydd o War and Peace gan Prokofiev fel rhan o Dymor yr Hydref 2018, ac yna ceir perfformiadau hynod boblogaidd yn y Royal Opera House yn 2016, lle gwerthir yr holl docynnau.
- Daw cyfnod Syr David Pountney fel Cyfarwyddwr Artistig WNO i ben yn Nhymor yr Haf 2019 gyda Thymor RHYDDID WNO, ar y thema hawliau dynol.
- Yn 2019, mae Aidan Lang, cyn-Gyfarwyddwr Staff WNO, yn ymuno ag WNO fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.
- Ym mis Mawrth 2020, caiff WNO Gartref ei lansio mewn ymateb i Gyfnod Clo cyntaf y Coronafeirws yn y DU, gan estyn gwahoddiad i gynulleidfaoedd gael golwg fanylach ar WNO trwy gyfrwng perfformiadau digidol.
- Ym mis Ebrill 2021, mae WNO yn dathlu 75 mlynedd o wasanaethu cymunedau a chyflwyno opera i gynulleidfaoedd eang ac amrywiol yn y DU a thu hwnt.
- Yn 2021, rhoddodd yr Athro Rolf Olsen rodd fawr i WNO er cof am ei wraig Shirley. Mae Bwrsari Shirley a Rolf Olsen yn cefnogi Cynllun Artistiaid Cyswllt WNO, sy’n datblygu ac yn meithrin doniau ifanc.
- Ym mis Ebrill 2023, mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn penderfynu torri cyllid craidd WNO – toriad o 35%.
- Mae Tymor yr Haf 2023 yn cynnwys cynhyrchiad newydd ac arloesol o Candide gan Bernstein.
- Ym mis Rhagfyr 2023, mae Aidan Lang yn ymddeol o’i swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol.
- Ym mis Ionawr 2024, mae Christopher Barron yn ymuno ag WNO fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro.
Personel Allweddol
Staff Allweddol WNO – hanes
Cyfarwyddwr Cerddoriaeth | |
---|---|
Idloes Owen | 1944-1952 |
Frederick Berend | 1953-1955 |
Vilem Tausky | 1955 |
Warwick Braithwaite | 1956-1961 |
Charles Groves | 1961-1963 |
Bryan Balkwill | 1963-1966 |
James Lockhart | 1968-1973 |
Richard Armstrong | 1973-1986 |
Charles MacKerras | 1986-1992 |
Carlo Rizzi | 1992-2001 |
Tugan Sokkhiev | 2003-2004 |
Carlo Rizzi | 2004-2007 |
Lothar Koenigs | 2009-2016 |
Tomáš Hanus | 2016 - i presennol |
Cyfarwyddwr Cyffredinol | |
---|---|
Aidan Lang | 2019 - i presennol |
Rheolwr Busnes | |
---|---|
Bill Smith | 1946-1968 |
Gweinyddwr Cyffredinol | |
---|---|
Douglas Craig | 1966-1970 |
Cynhyrchydd | |
---|---|
Norman Jones | 1946-1952 |
John Moody | 1952-1972 |
Cyfarwyddwr Cynyrchiadau | |
---|---|
Michael Geliot | 1970-1976 |
Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Artistig | |
---|---|
John Fisher | 2006-2010 |
David Pountney | 2015 - 2019 |
Rheolwr Gyfarwyddwr | |
---|---|
Brian McMaster | 1976-1991 |
Matthew Epstein | 1991-1994 |
Anthony Freud | 1994-2005 |
Peter Bellingham | 2002-2015 |
Leonora Thomson | 2015 - 2019 |
Rheolwr Gyfarwyddwr | |
---|---|
Brian McMaster | 1976-1991 |
Matthew Epstein | 1991-1994 |
Anthony Freud | 1994-2005 |
Peter Bellingham | 2002-2015 |
Leonora Thomson | 2015 to present |