Partneriaid Corfforaethol
Dewch yn bartner corfforaethol Opera Cenedlaethol Cymru
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli’r gorau o ddiwylliant Cymru. Rydym yn darparu rhaglen heb ei hail o ddigwyddiadau celfyddydol, addysgol a chymunedol o’r radd flaenaf ledled Cymru a Lloegr ac yn rhyngwladol, gan ddenu cynulleidfa genedlaethol helaeth a dylanwadol i wylio perfformiadau clodfawr mewn lleoliadau mawr eu bri ar hyd a lled y wlad.
Ein nod yw
- Gwahodd pobl i ddod i gysylltiad â swyn ein celfyddyd a phopeth mae’n ei alluogi,
- Darparu llwybrau ar gyfer cantorion opera sy’n dod i’r amlwg a meithrin artistiaid y dyfodol,
- Cyfoethogi bywydau drwy opera a cherddoriaeth gerddorfaol, a helpu i feithrin cydlyniad a nerth mewn cymunedau,
- Ymgorffori'r celfyddydau mewn cymunedau a chyfrannu’n naturiol i fywyd dydd i ddydd ac uchelgeisiau
Mae WNO yn ymdrin â phob un o’n partneriaethau ar sail unigol, a byddwn yn cydweithio â'ch tîm i greu pecyn buddion teilwredig ar gyfer bob blwyddyn o’n partneriaeth. Dymunwn ffurfio partneriaethau gyda phartneriaid corfforaethol o feddwl tebyg sy’n rhannu ein gweledigaeth o gyfoethogi bywydau drwy brofiadau trawsnewidiol.
Helen Johnson, Pennaeth Marchnata, Aaron and Partners SolicitorsMae’r berthynas rhwng Opera Cenedlaethol Cymru ac Aaron & Partners yn un bwysig i ni. Mae hi’n gynyddol bwysig i ni ein bod yn cefnogi'r Celfyddydau o fewn ein cymuned cyfagos ac ehangach – mae Opera Cenedlaethol Cymru cymaint mwy na hynny. Mae gennym ymdeimlad o bartneriaeth – mae wir yn drefniant cydweithredol, sy’n beth hynod werthfawr. Mae WNO yn hynod gefnogol o'n hanghenion busnes hefyd ac yn gweithio gyda ni, yn rhannu syniadau i wneud yn siŵr fod y ddwy ochr yn cael budd mawr o’r berthynas.
Gallwch ddarganfod ein Cefnogwyr Busnes Presennol yma.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn ag ymgysylltu ag Opera Cenedlaethol Cymru neu gefnogaeth gorfforaethol, cysylltwch â development@wno.org.uk