Cyfrannwch nawr

Fel elusen, mae cyllid gan ffynonellau dyngarol yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol WNO. Byddwch yn rhan o’r stori honno. Mae cefnogi WNO yn golygu y bydd rhoddion bach neu fawr yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gallu i barhau i ddatblygu talent, gweithio mewn ysgolion, gyda ffoaduriaid, mewn ysbytai a gydag unigolion sy'n byw â dementia, gan gyflwyno pŵer opera a cherddoriaeth glasurol i bawb.

Gall eich rhodd ein helpu i barhau i gyflwyno dosbarthiadau cerdd wythnosol i blant ysgol ledled de Cymru, cyflwyno hud canu i unigolion sy'n byw â dementia, cyflwyno sesiynau cerdd i unigolion sy’n byw â Covid Hir, drwy helpu i gynorthwyo â gorbryder a phroblemau anadlu, a llawer mwy! Gall rhodd fechan gael effaith fawr.

#WNOdonate