
Amdanom ni
Credwn ym grym opera i drawsnewid bywydau.
Ein cenhadaeth yw i ddod â grym, drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig.
Fel cwmni cenedlaethol gyda statws rhyngwladol, rydym wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru a chwaraewn rôl werthfawr yn y cymunedau a wasanaethwn yn Lloegr. Gweithiwn gyda phartneriaid i ddarganfod a meithrin talent operatig ifanc, a darparwn y man cychwyn i yrfaoedd rhyngwladol.
Mae teithio yn hanfodol i ni ac ymdrechwn i gyflwyno gwaith o’r ansawdd uchaf ar draws ein rhaglen artistig, gan gynnig adloniant ac ysbrydoliaeth i gynulleidfaoedd yn ein hoperâu a chyngherddau a darparwn brofiadau trawsnewidiol trwy ein gwaith ieuenctid a chymuned.
Gan adeiladu ar ein hanes dros 70 mlynedd a’n gwreiddiau yng nghymunedau De Cymru, anelwn at ddangos i genedlaethau’r dyfodol bod opera yn ffurf werthfawr, berthnasol a chyffredinol o gelfyddyd.
Mwy na unrhyw gwmni arall, mae WNO yn agor drysau opera i bawb.
Noddwr Ei Fawrhydi Brenin Charles III
Llywydd Anrhydeddus Mathew Prichard CBE, DL