Llogi WNO
Dewch i ddarganfod cyfrinachau cefn llwyfan y byd opera
Mae pecynnau Digwyddiadau a Phrofiadau Opera Cenedlaethol Cymru yn rhoi’r cyfle ichi gael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar y catalog eang o waith, a wneir yng Nghymru, gan sefydliad celfyddydau mwyaf y genedl.
P’un a ydych yn chwilio am rywbeth penodol neu’n dewis un o’n pecynnau parod*, mae digwyddiad gydag WNO yn addo eich swyno, gan fod creu profiadau bythgofiadwy yn greiddiol i’n sefydliad.
Taith cefn llwyfan gynhwysfawr
Dewch i brofi bwrlwm cyffro Tymor WNO. Crwydrwch o amgylch yr ardaloedd cefn llwyfan yn ein cartref, Canolfan Mileniwm Cymru, gan gynnwys ein hadrannau creu gwisgoedd, ein stiwdios ymarfer, ein doc llwytho a mwy.
Ar gael pan fydd WNO yn ymarfer/perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Gallai cynnig cyfyngedig fod ar gael yn ystod teithiau, yn amodol ar amserlen y lleoliad dan sylw, a byddai’n cynnwys ffi weinyddol ychwanegol.
1 awr, £30 y pen (lleiafswm o 5 person)
Profiad Wigiau a Cholur
Camwch i mewn i adran fwyaf ceinwych WNO. Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae ein wigiau yn edrych mor realistig? Neu faint o golur mae’n ei gymryd i drawsnewid prif gantores hardd i fod ar ei gwely angau? Hwn yw eich cyfle i gael gwybod! Dewch i’n hadran Wigiau a Cholur lle bydd aelod o’ch grŵp yn cael eu coluro fel cymeriad opera o’u dewis. Wrth i’r adran wneud eu gwyrthiau, gall eich grŵp gael sgwrs â’n tîm talentog am eu gwaith a sut maent yn trawsnewid cantorion yn gannoedd o wahanol gymeriadau bob blwyddyn.
1 awr, £500 (mwyafswm o 5 person)
Diwrnod Technegol (yng Nghanolfan Mileniwm Cymru)
Heb amheuaeth, agweddau technegol perfformiadau WNO yw rhai o’r agweddau mwyaf cymhleth a diddorol. Mae WNO yn cynnal o leiaf un cynhyrchiad y tymor yn rheolaidd, gyda llu o staff yn rhan o’r broses o sicrhau rhediad diogel, didrafferth yr holl gynyrchiadau hyn. Mae hyn oll yn digwydd heb i chi ei weld o’ch sedd yn y gynulleidfa. Dewch i gwrdd â’n hadran dechnegol a chlywed am eu gwaith, a gofyn y cwestiynau pwysig ynglŷn â logisteg adeiladu set, creu propiau, wigiau a cholur, gwisgoedd a mynd â’r cyfan ar daith.
Gall diwrnod technegol WNO gynnwys taith cefn llwyfan, ond i allu gwneud hyn, bydd yn rhaid i’ch grŵp gynnwys 20 o bobl neu lai.
Pris wrth wneud cais, yn amodol ar niferoedd a’r amserlen.
Dosbarth Meistr Artist Cyswllt
Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae’r llais rhyfeddol rydych chi’n ei glywed yn yr opera yn cael ei hyfforddi? Ymunwch â ni ar gyfer sesiwn gydag un o Artistiaid Cyswllt WNO wrth iddynt gael eu hyfforddi drwy eu rôl nesaf, neu aria heriol. Mae Cynllun Artistiaid Cyswllt WNO yn gynllun datblygu talent a sefydlwyd 30 mlynedd yn ôl, ar gyfer cantorion proffesiynol sy’n dod i’r amlwg. Mae pob un ohonynt yn cael swydd gyflogedig yn y Cwmni am flwyddyn, gan ddysgu ystod enfawr o sgiliau a chael sesiynau hyfforddiant rheolaidd.
Mae ein dosbarth meistr yn rhoi profiad unigryw i chi o sesiwn hyfforddiant, a'r cyfle i weld staff cerddorol WNO wrth eu gwaith.
Pris wrth wneud cais, yn amodol ar niferoedd a’r amserlen.
Yn achos yr holl gyfleoedd hyn, gellir cael pecyn yn cynnwys tocynnau a lletygarwch ar gyfer un o berfformiadau WNO, a fydd yn cynnwys costau ychwanegol.
Llogi WNO ar gyfer eich digwyddiad
Mae WNO ar gael i’w llogi ar gyfer eich digwyddiad, bach neu fawr, a gellir teilwra pecynnau ar eich cyfer, gydag enghreifftiau isod:
Canwr/Cantorion unigol gyda phiano Gwnewch eich digwyddiad yn arbennig gyda chanwr i ddarparu cerddoriaeth gefndirol neu berfformiad byw. Detholiad o ariâu poblogaidd ar gael.
Deuawdau operatig gydag ensemble Beth well na deuawd opera i fynd y filltir ychwanegol yn eich digwyddiad? Mae cerddoriaeth ar gael o rai o’r operâu mwyaf poblogaidd, gan gynnwys La traviata, William Tell, La boheme a mwy.
Dewis o repertoire ar gael, yn amodol ar gostau trefnu.
Corws WNO Beth am gael Corws WNO i ddarparu’r adloniant yn eich digwyddiad? Bydd y corws o’r radd flaenaf yn sicr o greu argraff ardderchog.
Pumawd pres Dewis bywiog ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Bydd aelodau o Gerddorfa WNO yn perfformio set o repertoire poblogaidd.
Telynor/Telynores Nid oes dim yn hyfrytach mewn digwyddiad na cherddoriaeth gefndirol yn cael ei chwarae ar un o hoff offerynnau cerdd Cymru.
Pedwarawd siop barbwr Ychwanegwch ychydig o hwyl at eich digwyddiad wrth i bedwar o aelodau Corws WNO ganu a rhyngweithio â’ch gwesteion, mewn arddull siop barbwr!
Pedwarawd llinynnol Dewis clasurol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad. Bydd aelodau o Gerddorfa WNO yn perfformio set o repertoire poblogaidd.
Ensemble 5 aelod ynghyd â dau o gantorion Cyfuniad o gantorion a chwaraewyr cerddorfaol o brif ensembles WNO.
Mae prisiau am becynnau yn cynnwys perfformwyr ar gael ar gais.
*Noder bod pob Digwyddiad a Phrofiad yn amodol ar yr amserlen. Mae WNO yn gwmni teithiol, ond byddwn yn gwneud ein gorau glas i fodloni eich cais. Rydym yn gofyn am o leiaf 28 diwrnod o rybudd ar gyfer y mwyafrif o brofiadau, a mwy os hoffech gael cerddorion cerddorfaol neu berfformwyr yn eich digwyddiad. I drafod eich anghenion, ac am bris, cysylltwch â Sarah Cannon-Jones, Pennaeth Digwyddiadau a Phrofiadau sarah.cannon-jones@wno.org.uk