Perfformiad mynediad
Opera yw’r ffurf gelfyddydol eithaf, mae’n cyfuno cerddoriaeth a drama i adrodd straeon gafaelgar ar raddfa anferthol. Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn ymroddedig i rannu hud opera gyda chymaint â phosib o bobl, mae hyn yn cynnwys disgrifio un opera bob tymor. Mae disgrifiad clywedol yn dod â holl ysblander opera i bobl sy’n colli eu golwg, yn wan eu golwg neu’n ddall.
Cyn y perfformiad, bydd ein disgrifwyr clywedol yn mynd â’r deiliaid tocyn ar Daith Gyffwrdd y tu cefn i’r llwyfan iddynt gael rhyngweithio â’r set a chael cyfle i deimlo’r propiau a’r gwisgoedd. Yna, maen nhw’n cwrdd â’r Rheolwr Llwyfan sy’n eu tywys o gwmpas y set, gan roi cipolwg o’r cynhyrchiad a rhannu ychydig o gyfrinachau y tu ôl i’r llwyfan!
Bydd y deiliad tocyn yna’n cael eu tywys yn ôl i’w seddi cyn i’r perfformiad ddechrau ac yn cael clustffonau.
Trwy'r clustffonau darparwyd, clywir cyflwyniad, sy'n gosod yr olygfa ar gyfer y perfformiad.
Disgrifiad Clywedol
Taith Gyffwrdd
Bydd y Teithiau Gyffwrdd yn digwydd yn yr awditoriwm gyda mesurau glanhau ychwanegol ar waith
Tymor y Gwanwyn 2022 - Madam Butterfly
Lleoliad | Dyddiad | Taith Gyffwrdd | Perfformiad |
---|---|---|---|
Canolfan Mileniwm Cymru | Sadwrn 19 Mawrth | 5.45pm | 7.15pm |
Milton Keynes Theatre | Sadwrn 26 Mawrth | 5.45pm | 7.15pm |
Bristol Hippodrome | Sadwrn 2 Ebrill | 5.45pm | 7.15pm |
Theatre Royal Plymouth | Sadwrn 9 Ebrill | 5.45pm | 7.15pm |
Birmingham Hippodrome | Sadwrn 23 Ebrill | 5.45pm | 7.15pm |
Mayflower, Southampton | Sadwrn 14 Mai | 5.45pm | 7.15pm |