Digwyddiadur
Mae Tymor 2025 Opera Cenedlaethol Cymru yn cyfuno cariad, chwerthin a chlymau o gariad gyda thonnau trasiedi sy'n corddi'r dyfroedd.
Mae i fod y diwrnod hapusaf ym mywydau Figaro a Susanna ond a fydd eu priodas yn digwydd? Byddwch yn barod am gorwynt o gynlluniad clyfar a gwychder melodig Mozart yn The Marriage of Figaro. Peter Grimes yw stori am unigedd a rhagfarn. Wedi’i gynhyrfu gan sïon ac amheuaeth, mae pysgotwr yn brwydro â chythreuliaid mewnol wrth i'r gymuned leol droi yn ei erbyn. Daw opera eiconig Britten yn fyw wrth i drasiedi datgelu yn erbyn cefndir bygythiol o donnau alawol, grymus
Hefyd, y Tymor yma, archwiliwch fyd anhygoel opera a cherddoriaeth glasurol gyda sioe deuluol ryngweithiol ac addysgiadol, Chwarae Opera YN FYW.Pecynnau aml-brynu opera
Archebwch fwy nag un opera yn eich lleoliad dewisol i fanteisio ar ostyngiadau aml-brynu arbennig.
*Gall amodau a thelerau fod yn berthnasol. Cysylltwch â'ch lleoliad dewisol am fanylion penodol