Gyrfaoedd WNO
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn bodoli i ddod â phŵer, drama ac emosiwn amrwd opera i gynulleidfa mor eang â phosibl mewn perfformiadau wedi eu nodweddu gan ymchwil digyfaddawd am ansawdd artistig. Fel cwmni cenedlaethol gyda statws rhyngwladol, rydym yn eistedd wrth galon creu cerddoriaeth yng Nghymru a chwaraewn rôl werthfawr yn y cymunedau a wasanaethwn yn Lloegr.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi ymgartrefu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd. Mae Caerdydd yn cyfuno hen hanes, cyffro chwaraeon, datblygiad modern iawn, diwylliant a gweithgareddau eclectig. Mae Caerdydd yn brifddinas gyfeillgar, amrywiol a chyffrous, dim ond 2 awr ar y trên o Lundain.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac Elusen Gofrestredig.
Swyddi gwag
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn trawsnewid bywydau trwy bŵer opera. Rydym yn angerddol am opera ac eisiau rhannu’r angerdd hwn gyda chymaint o bobl eraill ac sy’n bosib. Rydym yn gwneud hyn drwy berfformiadau llwyfan clodwiw yn ogystal â chyngherddau sy’n cyfuno awyrgylch llawn anturiaethau a’r ansawdd uchaf posib. Rydym yn sicrhau bod ein perfformiadau yn addas i bawb wrth gadw prisiau ein tocynnau yn rhesymol ac yn fforddiadwy.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’r tîm, mae ein swyddi gwag, gan gynnwys swyddi yn y Gerddorfa, wedi eu hysbysebu yma.
Os ydych yn gantor neu’n gantores sy’n dymuno cael clyweliad, ewch i’n tudalen Clyweliadau.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig. Rydym yn annog pobl o unrhyw gefndir i wneud cais am swyddi gwag. Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas ac sy’n dwyn ynghyd pobl sydd ag amrywiaeth o sgiliau a phrofiadau i helpu i siapio’r hyn a wnawn a sut y gweithiwn. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME), a phobl anabl sy’n dymuno ymgeisio.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg. Os ydych yn dymuno gwneud cais yn Gymraeg, ni fydd yn cael ei drin yn llai ffafriol na phe baech yn gwneud cais yn Saesneg.
Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu derbyn.
Clyweliadau
Drwy wahoddiad yn unig y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn trefnu clyweliadau ar gyfer y prif rannau a chantorion llanw. Noder, er ein bod yn hapus i glywed yr holl gantorion proffesiynol, nid oes gennym lawer o slotiau clyweled ac mae’n broses hir. Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan gantorion o bob cefndir.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cael clyweliad ar gyfer gwaith Corws ychwanegol, anfonwch eich CV at castingassistant@wno.org.uk. Ar gyfer swyddi eraill yn cynnwys aelodau corws parhaol, a staff cerdd a cherddorfa gweler ein swyddi gwag cyfredol.
Mae yna amrywiaeth o gyfleoedd i gantorion o fewn ein Hopera Ieuenctid a’n Corws Cymunedol.
Profiad gwaith
Os ydych yn ystyried gyrfa yn y celfyddydau ar ôl gadael yr ysgol, coleg neu’r brifysgol, gall Opera Cenedlaethol Cymru gynnig gwahanol brofiadau gwaith i chi mewn amryw o adrannau ar draws y sefydliad. Bob blwydyn mae WNO yn cynnig profiad gwaith, lleoliadau a chyfleoedd cysgodi mewn gwahanol adrannau ar draws y sefydliad yn dibynnu ar argaeledd ac amserlenni'r Cwmni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyfleoedd profiad gwaith yma yn WNO, cwblhewch y ffurflen gais profiad gwaith
* Nid oes cyfleoedd profiad gwaith ar gael ar hyn o bryd. Bydd unrhyw gyfleoedd yn cael eu hysbysebu yma, felly gwiriwch y dudalen yn rheolaidd am ddiweddariadau. *
Gwerthoedd
Rydym yn:
Gynhwysol: Mae gennym ddiwylliant gweithle lle mae pob person yn cael ei barchu a'i werthfawrogi
Cydweithredol: Rydym yn gweithio fel tîm i gyflawni nodau cyffredin
Arloesol: Rydym yn herio ein hunain yn greadigol ac yn annog syniadau newydd
Hael: Mae ein pobl yn defnyddio eu talent, gwybodaeth a sgiliau gyda haelioni ysbryd
Gyfrifol: Rydym yn gweithredu gydag uniondeb ac atebolrwydd
Buddion Staff
Pensiwn
Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu gynllun pensiwn cofrestredig arall tebyg y gall y Cwmni ei sefydlu fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys dri mis ar ôl iddynt ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwyster penodol.
Mamolaeth/ Tadolaeth / Mabwysiadu
Rydym yn cynnig cynllun hael sy’n rhoi taliadau ar ben y ddarpariaeth statudol.
Hamdden Gorfforaethol - Aelodaeth Gampfa
Mae’r holl weithwyr yn gymwys i gael Cerdyn Corfforaethol Caerdydd Actif gan Gyngor Dinas Caerdydd sy’n cynnig gostyngiad o 25% ac sydd yn cael ei dderbyn mewn amrywiol gyfleusterau hamdden ledled Caerdydd.
Gostyngiadau
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i’r preswylwyr mewn siopau dethol yn yr adeilad ac mewn bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cerdyn adnabod. Cyfradd ostyngedig gydag Future Inns yng Nghaerdydd.
Gostyngiad Parcio i Staff gyda Q Park
Mae gennym drefniant o bris gostyngol corfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â WMC).
Rhaglen Cynorthwyo Cyflogai
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori am ddim a chyfrinachol sydd ar gael i'n holl gyflogeion, gweithwyr annibynnol, contractwyr ac aelodau o'ch teulu.
Gwersi Cymraeg
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol gwersi gwella dewisol yn rhad ac am ddim.