Digwyddiadau i aelodau WNO

Fel un o Gyfeillion neu Noddwyr gwerthfawr WNO, gallwch gael mynediad at ddigwyddiadau unigryw ‘y tu ôl i’r llenni’.

Mwynhewch y cyfle i gael sbec ar ymarferion yn mynd rhagddynt, dewch i gwrdd ag aelodau o dîm WNO, crwydrwch du ôl i'r llen, a mwy.

Gweler isod y digwyddiadau sydd ar gael i'w harchebu ar hyn o bryd, gyda rhagor o ddyddiadau i'w cyhoeddi drwy gydol y flwyddyn - felly cofiwch gadw llygad arnynt.

Mae'r aelodau sydd ar ein lefelau Noddwyr uwch yn mwynhau cyfleoedd gwell fyth i ymgysylltu'n agosach ag WNO. O wahoddiadau i ymarferion llwyfan arbennig, mynediad at artistiaid a dathliadau noson agoriadol, i ddigwyddiadau cynghrair yn cynnig cipolwg tu ôl i'r llen ar gynyrchiadau newydd, mae'r profiadau hyn yn darparu cysylltiad unigryw â chalon greadigol y Cwmni.

Oherwydd eu nifer cyfyngedig, mae aelodau'n gymwys ar gyfer uchafswm o ddau docyn oni bai y nodir yn wahanol ar y manylion am y digwyddiad. Mae mynediad at ymarferion ar ddisgresiwn y tîm creadigol a gall newid.

I archebu digwyddiadau neu ddysgu rhagor am ymuno â'n Noddwyr, Cynghrair, neu Gylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol a'r profiadau sydd ar gael ar bob lefel, cysylltwch â'r Tîm Datblygu drwy ffonio 02920 63 5000 neu dros e-bost development@wno.org.uk..

Digwyddiadau i aelodau:


Tu Ôl y Llenni yn Storfa Eastmoors

Yn agored i Noddwyr a Cyfarwyddwr Cyffredinol
Tocynnau: £20
Dyddiad: 7 Gorffennaf, Dydd Mawrth 14 Gorffennaf, Dydd Iau 5 Tachwedd,11am i 1pm

Camwch y tu ôl i'r llenni ac archwiliwch lle mae hud cynyrchiadau WNO yn cael ei greu. Ymunwch â Judith Russell, Pennaeth Gwisgoedd Teithiol WNO, am daith dywys o amgylch ein siopau Eastmoors yng Nghaerdydd, lle byddwch yn gweld casgliad rhyfeddol o setiau, propiau a gwisgoedd o agos.

Mae'r teithiau grŵp bach hyn yn cynnig cyfle prin i ddarganfod y celfyddyd, y manylion a'r crefftwaith y tu ôl i gynyrchiadau WNO, gyda digon i'w weld a straeon i'w mwynhau ar hyd y ffordd.

Noder: mae teithiau'n cynnwys cludiant i ac o Ganolfan Mileniwm Cymru ac yn cynnwys mynediad grisiau yn unig (nid oes lifft ar gael).


Cyfres Weminar Ar-lein

Ar agor i'n holl Aelodau - Cyfeillion, Noddwyr a Chylch y Cyfarwyddwr
Tocynnau: Yn rhad ac am ddim i fynychu.
Amser: 5.30-7pm.

Ewch y tu ôl i'r llen i ddarganfod byd o WNO drwy ein cyfres weminar newydd. Mae'r digwyddiadau ar-lein arbennig hyn yn cynnig cipolwg rhyfeddol ar wahanol feysydd o'n gwaith - o'r gelfyddyd ar y llwyfan i'r creadigrwydd a'r cydweithrediad sy'n dod â'n cynyrchiadau'n fyw.

Dydd Iau, 3 Medi, 5.30-6.30pm - Sgwrs gyda’n Cyd-gyfarwyddwyr Cyffredinol


Ymunwch â Sarah Crabtree ac Adele Thomas am sgwrs ar-lein arbennig ynghylch y weledigaeth y tu ôl i dymor 2026/27. Cewch ddysgu mwy am y cynyrchiadau maent wedi eu dewis, clywed am eu cynlluniau ar gyfer WNO a bachu ar y cyfle i ofyn cwestiynau iddynt mewn sesiwn holi ac ateb.

Dydd Mercher 4 Tachwedd, 5.30-6.30pm - Golwg ar y Gerddorfa


Dewch i gael cipolwg prin ar fywyd Cerddorfa WNO a chlywed yn uniongyrchol gan rai o’n cerddorion byd-enwog am yr angerdd, y manylder a’r gwaith tîm y tu ôl i bob perfformiad.

Ymarferion Gwisgoedd Agored

Ar agor i'n holl Aelodau - Cyfeillion*, Noddwyr a Chylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Cost: Am ddim*

Profwch y camau olaf yn y broses o ddod â'n cynyrchiadau'n fyw gyda mynediad arbennig i'r ymarferion gwisgoedd agored hyn. Cyfle prin i weld y Cwmni ar ei anterth yn paratoi cyn y noson agoriadol.

Dydd Llun 14 Medi, 3pm – Bluebeard's Castle + Oedipus Rex
Dydd Iau 24 Medi, 3pm – La boheme

Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru

*Ar gael pan fo tocynnau wedi'u prynu ar gyfer perfformiad gan aelod Cyfaill a enwir yn unig, does dim angen i Noddwyr ac uwch brynu tocyn ar wahân. Gofynnir am eich cyfeirnod archebu. Dau bàs ar gael fesul aelodaeth.

Dathliadau noson agoriadol - Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd

Trwy wahoddiad yn unig i Noddwyr Aur, Noddwyr Platinwm a Chylch y Cyfarwyddwr Cyffredinol*

Bluebeard's Castle + Oedipus Rex - Dydd Sul 20 Medi
La boheme
- Dydd Sul 27 Medi

Bydd aelodau ar lefel Noddwr Aur ac uwch sydd wedi archebu tocynnau i'n perfformiadau noson agoriadol yng Nghaerdydd yn derbyn gwahoddiad arbennig i ymuno â'r Tîm Datblygu a gwesteion am ddiodydd cyn y sioe i ddathlu dechrau pob cynhyrchiad newydd.


Mae'r achlysuron arbennig hyn yn cynnig cyfle gwych i ddod ynghyd â chefnogwyr eraill ac aelodau tîm WNO i nodi cyffro'r noson agoriadol.

*Rhoddir gwahoddiadau yn gymesur â lefel y gefnogaeth a roddir i waith parhaus WNO.


Ymarferion llwyfan – Canolfan Mileniwm Cymru

Tocynnau: £15

Profwch gyffro opera yn y gwaith. Mae'r ymarferion llwyfan unigryw hyn yn cynnig cyfle prin i Aelodau wylio ein cerddorfa, arweinydd a chyfarwyddwr wrth eu gwaith wrth iddynt ddod â chynhyrchiad yn fyw. Byddwch yn cael cipolwg diddorol ar y manwl gywirdeb, y celfyddyd a'r cydweithio sy'n llunio pob perfformiad.

La bohème
– Dydd Mercher 23 Medi, 3-6pm

*Mae Noddwyr Platinwm ac uwch yn derbyn gwahoddiadau am ddim i ymarferion. Cysylltwch â'r Tîm Datblygu yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth ar 02920 63 5000 development@wno.org.uk

Eich WNO. Eich Gwaddol.

Dewch i weld effaith gadael rhodd yn eich Ewyllys

Dydd Gwener 2 Hydref 2026, 2.30pm-4.30pm, Caerdydd Mynediad am ddim

Ymunwch â ni am brynhawn arbennig yn edrych ar sut y gall gadael rhodd yn eich ewyllys helpu i lywio dyfodol Opera Cenedlaethol Cymru.

Cewch fwynhau perfformiad gan rai o aelodau Corws WNO, clywed mewnwelediadau i fywyd tu ôl i’r llenni a chanfod sut mae cymynroddion yn helpu i gefnogi uchelgeisiau artistig WNO, meithrin talent y dyfodol a dod ag opera i gymunedau ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.

Cewch gyfle hefyd i ddysgu mwy am adael rhodd yn eich Ewyllys, gan gynnwys gwybodaeth am Fis Ewyllysiau Am Ddim fis Hydref a’r effaith barhaus all cymynroddion eu cael ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dyddiad i’r dyddiadur - rhagor o fanylion a gwybodaeth ynghylch archebu ar gael yn fuan.


Cwrdd â'r Archifwyr a'r Llyfrgellydd

Ar Agor i Noddwyr ac Uwch
Tocynnau: £15.00

Ymunwch ag archifwyr gwirfoddol WNO am fore hynod ddiddorol yn archwilio trysorau archif a llyfrgell gerddoriaeth WNO. Mwynhewch leoliad hamddenol ac anffurfiol wrth i chi ddarganfod y straeon, yr arteffactau a'r hanes sy'n olrhain taith WNO, gyda digon o gyfle i ofyn cwestiynau a rhannu eich atgofion eich hun.

Dydd Mawrth 13 Hydref, 10am i 12.30pm
Dydd Iau 3 Rhagfyr, 10am i 12.30pm

Oherwydd capasiti'r ystafelloedd, mae lleoedd yn gyfyngedig, gan gynnig profiad agos atoch a phersonol.

Os oes gennych anghenion mynediad neu gwestiynau, cysylltwch â ni ar development@wno.org.uk neu ffoniwch 029 2063 5000.