Gwnewch rywbeth ANHYGOEL
Gadewch rodd barhaol.
Mae rhoddion mewn ewyllysiau yn hanfodol o ran ategu ein gweledigaeth artistig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae gostyngiad diweddar yn ein cyllid Cyngor Celfyddydau Lloegr, ynghyd â’r cynnydd mewn costau byw, yn golygu ein bod yn awr, yn fwy nag erioed o’r blaen, angen addewid eich cymorth er mwyn ein galluogi i barhau â’n gwaith ymhell i’r dyfodol.
Os ydych wedi penderfynu gadael rhodd i WNO yn eich ewyllys neu'n bwriadu gwneud hynny, mae croeso i chi gysylltu â ni. Byddem yn gwerthfawrogi'r cyfle i ddiolch i chi am eich cefnogaeth ac i'ch diweddaru ynglŷn â'n gwaith.
I rannu eich bwriad â ni, neu i gael trafodaeth gyfrinachol am adael rhodd etifeddiaeth, cysylltwch â Lorraine Rees ar 029 2063 5014 neu lawrlwythwch y ffurflen isod.
Elspeth HardingAm flynyddoedd lawer, bu fy Mam â rhan hollbwysig yn y gwaith o redeg cangen Lerpwl a Gogledd Orllewin Lloegr o Gyfeillion WNO, ochr yn ochr â’m Tad a’m Nain. Hi hefyd oedd yr un a’m cyflwynodd i’r byd opera ac i WNO pan oeddwn i’n blentyn. Hi yw’r rheswm pam rydw i wrth fy modd ag opera a’r rheswm pam roeddwn i eisiau gweithio yn WNO. Trwy adael rhodd i WNO yn ei hewyllys, yn ei thro mae hi’n helpu i gadw opera yn fyw i mi ac i genedlaethau’r dyfodol.
Ysgrifennwch eich Ewyllys yn rhad ac am ddim gyda Octopus Legacy
Rydym wedi creu partneriaeth â’r arbenigwyr ysgrifennu ewyllys, Octopus Legacy, sy’n cynnig gwasanaeth ysgrifennu ewyllysion arlein cyflym a syml lle mae bob un ewyllys yn cael ei gwirio gan arbenigwr cyfreithiol.
Mae Octopus Legacy hefyd yn cynnig gwasanaethau ysgrifennu ewyllys dros y ffôn ac wyneb yn wyneb i’r unigolion hynny y byddai’n well ganddynt drafod â chyfreithiwr yn uniongyrchol. I ddysgu mwy neu i wneud apwyntiad ffoniwch eu tîm ar 0800 773 4014.
Nodwch mai dim ond drwy’r Saesneg y mae Octopus Legacy yn cynnig y gwasanaeth hwn.