The Black Spider Judith Weir
Archived: 2021/2022Trosolwg
Yn dilyn llwyddiant aruthrol Brundibar (2019), mae grwpiau Opera Ieuenctid WNO un uno unwaith eto ar gyfer perfformiad raddfa lawn.
Mae The Black Spider yn stori anghynnes, comig sy’n mynd â ni yn ôl i’r Oesoedd Canol. Rydym yn ailymweld â Gwlad Pwyl gynt, lle mae dyn gwyrdd rhyfedd yn cynnig amddiffyn pentref rhag eu landlord cas ond iddo gael priodi Christina hardd. Pan mae hi’n torri ei haddewid ac yn priodi ei gwir gariad, mae’r pentref yn cael ei felltithio gyda phla gan bryf cop sy’n cropian o’i dwylo. Mae Christina yn ymladd i achub ei phobl ac yn y diwedd, yn llwyddo i gladdu’r pryf cop y tu allan i’r eglwys er mwyn rhoi diwedd ar y drychineb. Fodd bynnag, ganrifoedd yn ddiweddarach, yng nghanol y gwaith o gloddio’r eglwys, mae archaeolegwyr yn cael eu taro gan firws heb esboniad….
Perfformiadau er cof David a Philippa Seligman
Ymunwch â’r Cyfarwyddwr Rhian Hutchings, y Cyfansoddwr Judith Weir a Dr David Beard (Ysgol Cerddoriaeth, Prifysgol Caerdydd) am drafodaeth ar ddod a The Black Spider i’r llwyfan am 6yh ar noson agoriadol cynhyrchiad Opera Ieuenctid WNO. Nifer cyfyngedig o docynnau am ddim ar gael i unrhyw un fydd yn mynychu perfformiad ar Mai 28 neu 29.
Defnyddiol i wybod
Sung in English