Gwerthiant Gwisgoedd ac Offer Llwyfan: Telerau ac Amodau

1. Ynglŷn â’r Eitemau 

Mae’r holl eitemau ar werth yn wisgoedd ac offer theatrig a ddefnyddiwyd o’r blaen mewn cynyrchiadau proffesiynol gan Opera Cenedlaethol Cymru. Nid yw’r eitemau’n newydd ac efallai y byddant yn dangos arwyddion o draul, addasiadau neu atgyweiriadau sy’n gyson â defnydd llwyfannol. 

2. Cyflwr / Gwerthu fel ag y Gweldir 

  • Gwerthir yr holl eitemau fel ag y gwelir ac fel y’u harchwilir ar adeg y pryniant
  • Anogir cwsmeriaid i wirio eitemau’n ofalus cyn prynu. 
  • Gall gwisgoedd ac offer gynnwys addasiadau, atgyweiriadau neu draul o’u defnydd ar y llwyfan. 

3. Lliwio, Triniaethau ac Alergeddau 

  • Efallai bod rhai gwisgoedd wedi’u lliwio, neu wedi’i paentio, eu trin neu eu gorffen ar gyfer defnydd llwyfan. 
  • Efallai nad yw’r deunyddiau a ddefnyddiwyd yn cwrdd â manylebau safonol dillad manwerthu ac efallai na fyddant yn addas i’r rhai â chroen sensitif. 
  • Mae cwsmeriaid ag alergeddau neu sensitifrwydd yn prynu ar eu menter eu hunain. 

4. Ymwadiad Offer Llwyfan a Dodrefn 

  • Gwerthir yr holl offer llwyfan a dodrefn fel eitemau theatrig yn unig ac nid fel teganau
  • Nid yw’r eitemau hyn wedi’u dylunio nag wedi’u cynhyrchu ar gyfer defnydd domestig na masnachol. 
  • Efallai na fydd yr eitemau’n cydymffurfio â safonau diogelwch modern ar gyfer defnydd domestig neu ddefnydd gan blant. 
  • Unrhyw ddefnydd o’r eitemau ar ôl eu prynu yw cyfrifoldeb llwyr y prynwr. 

5. Dychweliadau ac Ad-daliadau 

  • Nid oes ad-daliadau, cyfnewidiadau na dychweliadau ar gael am newid meddwl. 
  • Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol os yw eitem wedi’i disgrifio’n anghywir ar adeg y pryniant, yn unol â Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015. 

6. Prisiau a Thaliadau 

  • Mae’r holl brisiau fel y’u nodir ar adeg y gwerthiant. 
  • Rhaid talu’n llawn am eitemau cyn eu cymryd i ffwrdd. 

7. Atebolrwydd 

I’r eithaf sy’n cael ei ganiatáu gan y gyfraith, nid yw Opera Cenedlaethol Cymru yn derbyn unrhyw atebolrwydd am: 

  • Adweithiau alergaidd 
  • Anaf neu ddifrod sy’n deillio o’r defnydd, yr addasu neu gamddefnyddio eitemau ar ôl prynu 

Nid yw dim yn y telerau hyn yn cyfyngu ar atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan esgeulustod. 

8. Cyfraith Lywodraethol 

Caiff y telerau hyn eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a Chymru.