Swydd wag - Cyfarwyddwr Cerdd

Mae Opera Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Cerdd arbennig i gydweithio â’u Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’u Prif Weithredwyr newydd, Sarah Crabtree ac Adele Thomas, i greu gweledigaeth gymhellol a dyfodol disglair ar gyfer y Cwmni.  

Datblygodd Opera Cenedlaethol Cymru allan o’r ysbryd democratiaeth wedi’r rhyfel ac obsesiwn llawr gwlad Cymru â'r llais dynol wrth ganu. Mae’r hanes hwn yn sail i'r ffordd yr hoffem ail-ddychmygu WNO fel cwmni opera’r dyfodol. 

Gyda’i wreiddiau yng Nghymru, a rhwydwaith teithio unigryw ar hyd a lled Lloegr, hoffem i WNO fod yn sefydliad celfyddydol arloesol, dewr a chyfoes o fewn ecoleg celfyddyd byw y DU. Gan adeiladu ar ein henw da rhyngwladol ar gyfer rhagoriaeth gerddorol a bywiogrwydd theatrig, rydym yn rhagweld ein dyfodol fel un yn chwilio am amrywiaeth gwell, ar ein llwyfannau ac ymysg ein cynulleidfaoedd, ac yn cwestiynu’r hyn a all opera ei fod yn y byd modern.

Beth fydd ei angen arnoch chi?

  • Hygrededd rhyngwladol fel arweinydd opera a all wella enw da WNO am ragoriaeth.
  • Enw da mewn arloesi ynghyd â dealltwriaeth ddofn o’r repertoire a’r dyhead i ddylanwadu ar ddyfodol opera.
  • Ymrwymiad i feithrin enaid theatrig a cherddorol y Cwmni ac ymrwymiad i ddatblygu talentau’r Corws a’r Gerddorfa yn eu cyfanrwydd neu fel unigolion.
  • Awydd gwirioneddol i gydweithio â’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol a’r timau Gweinyddu Artistig a Cherddoriaeth i gynllunio a gweithredu rhaglen artistig ar draws popeth a wna’r Cwmni. 
  • Ymrwymiad i ddatblygu hunaniaeth Gymreig y Cwmni wrth raglennu a datblygu artistiaid.
  • Diddordeb yng nghylch gorchwyl teithio WNO.
  • Parodrwydd i gymryd rhan weithredol yng ngwahanol agweddau gwaith WNO, yng Nghaerdydd ac ar daith.
  • Parodrwydd i fod yn eiriolwr ar gyfer gweledigaeth y Cwmni gyda’r gynulleidfa ehangach a rhanddeiliaid allweddol ar bob un o lwyfannau’r cyfryngau.
  • Ymrwymiad i dreulio cyfran sylweddol o amser yng Nghaerdydd, ac i fod ar gael i staff uwch WNO yn rhithiol, pan nad ydych yn breswyl. 
  • Rydym yn rhagweld dyddiad cychwyn ar ddechrau tymor 2027/28, ond mae WNO yn agored i drafod hyn a hyd y ddeiliadaeth gydag ymgeiswyr sydd â diddordeb.

Os ydych chi'n chwilio am yr her nesaf, yna gwnewch gais heddiw. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg.Ni fydd unrhyw geisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na phe baent yn Saesneg.

I fynegi diddordeb yn y rôl hon, anfonwch e-bost a CV atmusicdirectorsearch@wno.org.uk